Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod llawer o gymundeb wedi bod rhyngddo ef â'r nefoedd yn y capel hwn o dro i dro, ar y Sabbath, ac yn yr ysgol ddyddiol. Clywsom Mr. Jones, Ty mawr, Gwyddelfynydd gynt, yn adrodd am ymddygiad hynod yr hen bererin y tro olaf y bu yn pregethu yn Mryncrug. Yr oedd yn ei hen ddyddiau, a bron wedi colli ei olwg yn llwyr. Ymddangosai yn hynod anfoddlawn i fyned o'r capel nos Sul, fel pe buasai wedi cael rhyw ddatguddiad nad oedd ddim i ddyfod yno mwy. Cerddai yn ol a blaen, a'i ben i lawr, ar draws y capel o flaen y pulpud, yn hir wedi i bawb fyned allan, a dywedai mai dyna y tro olaf iddo weled yr hen addoldy. Wedi dyfod i'r drws, i gychwyn tua Gwyddelfynydd gyda Mr. Jones, troes yn ei ol drachefn, a'i wyneb unwaith eto i mewn i'r capel, a dywedai, "Ffarwell i ti yr hen gapel am byth; gwelais lawer o Dduw ynot ti erioed!"

Y blaenoriaid cyntaf fu yn gofalu am yr achos yn Bryncrug oeddynt J. Jones, Penyparc, a Harri Jones, Nantymynach. Cychwynodd y ddau eu gyrfa yn lled agos yr un amser, a buont yn cydweithio yn hir; H. J. yn gorphen ei oes Gorphenaf, 1824, a J. J. yn Gorphenaf, 1846. Enillodd y ddau radd dda fel diaconiaid, "hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu," ac enwogrwydd nid bychan ymhlith yr eglwys filwriaethus. Siaredid yn y wlad am grefydd a hynawsedd y naill, ac am ysgo!heigdod a gwaith y llall, ac yr oedd yn ddywediad ymhlith eu cydnabod y byddai J. Jones yn troi a H. Jones yn llyfnu." Wrth edrych dros lyfr cofnodion yr. eglwys am 1845 a 1846, gwelir mai Margaret Jones, Penyparc, priod J. Jones, oedd trysorydd yr eglwys ar y pryd. Yr oedd disgyblaeth yn uchel yn yr eglwys hon. Dengys y llyfr uchod fod diarddeliadau wedi cymeryd lle yn ystod un flwyddyn oherwydd yr achosion canlynol:—Am anonestrwydd, pump neu chwech; am anwiredd, amryw; am esgeuluso moddion gras, amryw; am fyned i'r tai gyda bechgyn dibroffes ar y ffair; am dori amod; am gyfeillachu yn anghyfreithlon; am ymladd—diarddelwyd am yr oll o'r pethau hyn mewn un