Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heigion J. J., Penyparc; wedi ei hyfforddi a'i addysgu yn dda mewn pethau crefydd er yn ieuanc; wedi cael mantais wrth draed ei hen athraw i ddyfod yn ddarllenwr da, ac i ymwreiddio yn egwyddorion crefydd. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth am ddull yr hen bobl o fyw a chrefydda. Perthynai iddo lawer o ddeheurwydd i gario ymlaen bob trefniadau mewn cysylltiad â'r achos. Prawf o'i fedr a'i ddeheurwydd oedd iddo lenwi y swydd o ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth i foddlonrwydd am flynyddau. Yn ddiweddar y dewiswyd ef yn flaenor eglwysig, ac ni chafodd ond oes fer i gyflawni y swydd hon. Wedi bod yn wael a llesg am dros ddwy flynedd, bu farw Mawrth 28ain, 1888, yn 77 mlwydd oed. Gwnaethpwyd coffhad parchus am dano yn y Cyfarfod Misol dilynol, yn y Bwlch,

Dichon y bu yn yr eglwys swyddogion eraill na chafwyd eu henwau, a diameu y bu ynddi lu o rai ffyddlon na chrybwyllir am danynt. Ond y mae enwau y "ffyddloniaid" oll i lawr yn llyfr bywyd yr Oen." Bu yma rai gweithwyr da hefyd sydd wedi symud i ardaloedd eraill i fyw. Teilynga un teulu grybwylliad penodol. Daeth Mr. G. Jones o Glanmachles, Llanegryn, i fyw i Gwyddelfynydd, yn 1848. Yr oedd yn flaenor yn Llanegryn er's dros ddeng mlynedd cyn hyn, Bu ef, a'i briod, a'u mab, a'u dwy ferch yn dra ffyddlon gyda yr achos, ac yn gefn iddo ymhob ystyr hyd eu symudiad i Tŷ Mawr, Towyn, yn 1881. Yr oedd eu tŷ trwy yr holl flynyddau hyn, fel Bethania i'r Iesu, yn llety i holl weinidogion yr efengyl, gyda phob croesaw a serchogrwydd. Mri. David Davies, yn awr o Lanfyllin, a Rees Parry, yn awr o Bennal, fuont yn flaenoriaid yma dros lawer blwyddyn. Yn yr eglwys hon hefyd y bu y Parch. G. Evans yn gwasanaethu yn ffyddlon cyn ei symudiad yn 1886 i Aberdyfi. Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt :—Mri. John Jones, David Thomas, John Morgan, William Roberts, Brynglas, William Roberts, Bodlondeb.

Y Parch. Robert Griffith, Bryncrug. Gŵr cadarn, crwn o