Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD I.

—————————————

SYLWADAU ARWEINIOL

CYNWYSIAD.—Byr ddarluniad o'r rhan hon o'r Sir—Lleoedd hynod—Hanesion boreuol.

 LAIN o wlad ydyw yr hyn a elwir 'Rhwng y Ddwy Afon,' ar gwr De-Orllewinol Sir Feirionydd, oddentu deuddeng milldir o led, a deunaw neu ugain milldir o hyd, rhwng dwy afon, sef yr Afon Mawddach ac Afon Dyfi. Ymestyna o ran ei hyd o Lwyngwril i gwr uchaf Aberllyfeni, a'i lled o Arthog i Bennal. Amgylchynir y rhandir o du y Gorllewin gan ran o'r môr a elwir Cardigan Bay; o du y Dwyrain, gan Gadair Idris, a Llyn Tal-y-llyn; o du y Gogledd, gan yr Afon Mawddach, neu Afon yr Abermaw; o du y De, gan Afon Dyfi. Ac o'r tu arall i Afon Dyfi y mae siroedd Trefaldwyn ac Aberteifi. Oddiwrth y ffaith fod y rhandir yn gorwedd rhwng dwy afon, y Mawddach a'r Dyfi, y tardd yr enw Rhwng y Ddwy Afon." Y mae yn perthyn i arwynebedd y wlad wastadedd a bryniau; mynydd a môr; "dyffrynoedd, glynoedd, a glanau;" tir toreithiog a thir ysgythrog. Yn ddaearyddol saif, fel Mesopotamia, o'r bron ar ei phen ei hun, yn wahanedig oddiwrth y tir oddiamgylch, gyda Chader Idris, brenin mynyddoedd y sir, ar un cŵr, y môr ar y cŵr cyferbyniol, a'r ddwy afon yn rhedeg yn gyfochrog, o bob tu.

Afon arall y gellir ei galw yn drydedd afon, ond sydd yn llai o faintioli, ac yn meddu llai o enwogrwydd, ydyw yr Afon Dysyni. Y mae rhediad hon drachefn yn gyfochrog â'r ddwy arall, ac ymestyna ar ei thaith tua'r môr, gan ranu y parth hwn o'r wlad, o'r bron yn y canol. Bêr yw ei hyd o'i chym—