Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Parch. Owen Williams (Towyn). Felly yr adnabyddid ef trwy ei oes, am y rheswm, mae yn debyg, fod Bryncrug a'r lleoedd eraill y bu yn preswylio ynddynt yn agos i Towyn. "Ganwyd fi," ebe fe, "Medi 11, 1784, yn Mhentref Bryncrug, plwyf Towyn, Sir Feirionydd. Yr oeddwn yn un o dri-ar-ddeg o blant-un-ar-ddeg o feibion a dwy o ferched. Cychwr oedd fy nhad ar yr afon Dysyni, yn cario cerrig calch a glo oddiwrth y llongau i fyny i'r wlad, a choed i lawr at y llongau. Bum inau yn dilyn yr alwedigaeth hono gyda fy nhad am chwe' blynedd, o pan oeddwn yn naw oed hyd nes oeddwn yn bymtheg, ddydd a nos, haf a gauaf, ac yn fynych mewn perygl, ac yn ofni colli fy mywyd. Cefais fyned i'r ysgol at Mr. John Jones, Penyparc. Dysgais ddarllen yn rhigl, ac ysgrifenu, ond nid llawer yn ychwaneg na hyny." Aeth i wasanaethu yn nhymor ei ieuenctid i Bronclydwr, ac yno yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Owen, Bronclydwr, y gelwid ef am amser wedi iddo ddechreu pregethu. Cafodd argyhoeddiad grymus ryfeddol, a bu dan Sinai lawer o wythnosau cyn ymuno â chrefydd. Tra yn was yn Bronclydwr, yr oedd rhai yn Llanegryn wedi ei anog i ddechreu pregethu, ond dwrdiai pobl y Bwlch yn arw am hyny, a dywedai rhai o honynt nad oedd neb ond y diafol yn ceisio ganddo bregethu. "Gwyddwn inau," meddai yntau, "nad oeddynt yn dweyd y gwir; yr oedd gŵr y Pentrauchaf, yn Llanegryn, yn dweyd wrthyf am bregethu, a'i fod yn meddwl fod defnyddiau ynof, felly yr oedd un dyn beth bynag wedi meddwl am i mi bregethu." Tua'r pryd hwn yr oedd y Parch. John Elias, o Fôn, yn pregethu ar foreu Sabbath yn Bryncrug, a galwodd pobl y Bwlch gommittee ar ol, i roddi achos Owen William gerbron, ac yntau ei hun yno yn gwrando. A'r gwyn a roddid yn ei erbyn oedd ei fod wedi rhyfygu pregethu yn Llanegryn, ac wedi dal ati hi am awr. Nid llawer a ddywedai John Elias ar y mater, ond gofynodd un gwr, "Paham nad all Duw wneyd Owen yn bregethwr cystal a gwneyd rhywun arall?" A dywedodd John