Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trigolion yr ardal yn llai gwâr na thrigolion odid i ardal yn y sir. Wedi gwneuthur y reilffordd uchod, y mae Llwyngwril, yn ddaearyddol, gwladol, a chrefyddol wedi dyfod i'r byd, yn lle bod fel cynt allan o hono. Ond yn llawn bedwar ugain mlynedd cyn i'r agerbeiriant cyntaf wneyd ei ffordd trwy Lwyngwril, fe ddaeth yr efengyl yn ei dylanwadau nefol i newid gwyneb yr ardal. "Dechreuodd y pregethu yn Llwyngwril," fel y dywed Methodistiaeth Cymru, "tua'r flwyddyn 1787." Nid yw hyn yn hollol gywir; dechreuwyd pregethu yma, yn ol pob tebyg, dair neu bedair blynedd cyn hyny. Tua'r flwyddyn 1787, neu y flwyddyn ganlynol, tebygem, y cymerodd yr erledigaeth y rhoddwyd ei hanes yn tudalen 48 le. Cyn y flwyddyn grybwylledig, byddai ambell odfa yn cael ei chynal yn nhŷ un Sion William, Gwastadgoed, ond ni byddai ond ychydig yn dyfod i wrando, ac erlidid y pregethwyr a'r gwrandawyr yn dost. Cafodd Sion William ei droi o'i dŷ am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; symudodd i le a elwir y Gors, a chynhelid pregethu yn ei dŷ yno hefyd. Mae yn deilwng o sylw nad oedd gan yr un enwad o Ymneillduwyr achos yn Llwyngwril pan ddechreuodd y Methodistiaid bregethu yno, ac na ddechreuodd yr un enwad arall achos yn y lle am ugain mlynedd wedi hyn. Yr oedd gan y Crynwyr achos wedi bod, a chynhalient y moddion yn y Llwyndu, yn agos i'r pentref. Yr oedd ychydig bersonau o'r brodyr hyn yn aros yr amser y dechreuwyd achos gan y Methodistiaid, ond darfuasant yn llwyr ymhen ychydig flynyddau ar ol hyny. Yn llan y plwyf, sef eglwys Celynin, yn unig y cynhelid y gwasanaeth crefyddol, lle byddai yr offeiriad yn pregethu, meddai un oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd, bob yn ail Sabbath. Yr oedd Catechism yr Eglwys, y Pader, y Credo, a'r Gwersi Bedydd yn cael eu dysgu yno. Ond nid oedd nemawr yn y plwyf a fedrent ddarllen y Beibl." Y cyfryw ydoedd agwedd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol yr ardal y blynyddoedd o flaen sefydliad yr Ysgol Sul.