Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yr oedd "trwst cerddediad yn mrig y morwydd" y blynyddoedd hyn; cynhyrfiadau yn cymeryd lle mewn rhai ardaloedd, a'r ardaloedd hyny drachefn, mewn modd nas gwyddai neb dynion, yn dylanwadu ar ardaloedd eraill. Aethai y crefyddwyr oedd yn Abermaw a Maes-yr-afallen rai gweithiau dros yr afon i Lwyngwril, a rhai o ardal Llwyngwril drosodd atynt hwythau, fel y darfu i'r ychydig ddisgyblion, o dipyn i beth, wneuthur yr Iesu yn hysbys y naill i'r llall. Dywedir i John Ellis, Abermaw, fod am dymor yn cadw ysgol ddyddiol yn Llwyngwril, o dan Mr. Charles, ond nid oes sicrwydd pa un ai cyn y flwyddyn y rhwystrwyd ef i bregethu yn y tŷ tafarn ai wedi hyny. Nis gallai fod fawr cynt, oblegid nid oedd ond rhyw ddwy neu dair blynedd eto er pan ddechreuasai ysgolion rhad Mr. Charles. Modd bynag, y peth sydd sicr ydyw, mai yn y flwyddyn 1789 y cymerodd tröedigaeth Lewis Morris, y penaf o'r erlidwyr, le. Cyn hyn, byddai pregethu yn awr ac yn y man ers rhyw bum' neu chwe' blynedd, ond wedi y flwyddyn hon, dechreuodd y disgyblion a'r moddion amlhau. A dywedir mai gweinidogaeth John Ellis, Abermaw, L. Morris, Dafydd Cadwaladr, ac ambell bregethwr dieithr, a fendithiwyd i blanu Methodistiaeth yn yr ardal. Dywedir gan un o ddisgynyddion y blaenor cyntaf yn Llwyngwril, mai Mr. Charles, o'r Bala, a sefydlodd y cyfarfod eglwysig cyntaf yno, mewn tŷ bychan yn ymyl y capel presenol, ac mai saith oedd y nifer ar sefydliad yr eglwys gyntaf. Ond nid ydyw y dyddiad wedi ei gadw gan neb. "Bu gwedd isel ar yr achos am lawer bwyddyn; aeth drosto auaf trwm." Y mae rhai pethau pur hynod yn perthyn i rai o sylfaenwyr cyntaf yr achos yn y lle. Nid oedd blaenoriaid yn cael eu gosod ar eglwysi dros amryw flynyddoedd wedi hyn. Cymerai y rhai a deimlent zel gydag achos crefydd, yn feibion neu yn ferched, y swydd, neu yn hytrach y gwaith o flaenori arnynt eu hunain. Yr oedd yr ardal yn lle tlotach na'r cyffredin. Golwg felly fyddai ar y pentref, y tai, a'r trigolion, Tlodion oeddynt ganlynwyr yr