Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i weddi o'i sefyll, a'i lygaid yn agored. Ei amcan oedd cadw golwg ar y plant direidus, er mwyn eu cadw mewn trefn. Os gwelai un o honynt yn camymddwyn, elai ato dan weddïo, a. rhoddai ysgydwad pur dda iddo, a cherddai yn ol i'r set fawr dan weddïo o hyd. Byddai yr hen dadau, er hyny, yn bur ffyddlon yn eu dull cartrefol eu hunain.

Yr Ysgol Ddyddiol.

Yr oedd yr ysgol ddyddiol y pryd hwn, pan y dygid hi ymlaen gan ysgol-feistriaid Mr. Charles, yn llaw-forwyn dra gwasanaethgar i grefydd, yn enwedig pan fyddai y gor-zelog a'r gor-dduwiol Lewis William yn athraw iddi. O tan ei ofal ef byddai yr ysgol ddyddiol y peth tebycaf o ddim y gwyddom am dano i'r ysgolion y darllenwn am danynt o dan arweiniad. y cenhadon mewn gwledydd paganaidd. Nis gwyddom am neb a fu yn Llwyngwril yn cadw ysgol ond John Ellis, Abermaw, hyd amser Lewis William. Yr oedd Lewis William yma. yn 1811 ac 1812, a gwnaeth waith mawr. Y mae amryw o'i bapyrau, tra bu yma y pryd hwn, ar gael, a thybiwn mai nid. annyddorol fyddai rhoddi dyfyniadau o honynt, er dangos pa fodd y cafodd y wlad ei lefeinio i dderbyn crefydd. Yn un o'i lythyrau at ymddiriedolwyr yr Ysgol Rad, yn y flwyddyn 1812, wedi ei ddyddio yn Llwyngwril, mae yn datgan ei ddiolchgarwch, yn gyntaf i'r Arglwydd am ei osod yn y swydd o athraw, yn ail iddynt hwythau am eu hynawsedd tuag ato, ac yna erfynia dros yr ysgolheigion am i'r ysgol gael ei pharhau am dri mis yn hwy:—

"Yr ydwyf yr annheilyngaf a'r anfedrusaf o bawb yn eich anerch a'r ychydig linellau canlynol, mewn dull o ddiolchgarwch. Dymunaf ar fy Nuw roddi i mi galon uniawn, ffyddlon, ddidwyll, ddeallus, ddeffrous, mewn diolchgarwch diball, yn benaf iddo Ef ei hun. Yr wyf yn teimlo ynof zel ac awydd i ddiolch am y Bod o Dduw, ac yn neillduol am ei fod yr hyn ydyw, sef yn Dad, Mab, ac Ysbryd, ac hefyd am ei briodol-