Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaethau. Diolch ei fod yn Dragwyddol, Anghyfnewidiol, Hollbresenol, Hollwybodol, Hollalluog, Sanctaidd, Cyfiawn, Doeth, a Da; am ei gariad, ei amynedd, a'i wirionedd. Y mae fy nghalon yn llosgi ynof o lawenydd a gorfoledd wrth edrych ar y Personau Dwyfol, a'u perffeithiau o blaid achub pechadur colledig. Nis gallaf beidio coffhau ychydig o lawer o'r gair sydd yn gweinyddu i fy meddwl gysur, ac yn peri i fy nghalon lamu o lawenydd. . . . . Wrth edrych ar Dduw, ac ystyried yr hyn ydyw, yr wyf wedi myned i syndod, a fy meddwl wedi ei lyncu i fyny ganddo hyd onid wyf yn methu ymadael ag ef. Diolch, diolch am galon ddiolchgar. Llawer o ddefnyddiau diolchgarwch a gefais wrth edrych ar ei waith yn y greadigaeth ac mewn rhagluniaeth; ond yn bresenol, yr wyf yn boddi rhwng dau beth, sef Yr hyn yw Duw, a threfn yr iachawdwriaeth. O! na bai genyf ddoethineb, dawn, medrusrwydd, a gallu yr angel i ddiolch i Dduw [yna enwa y pethau y dylai ddiolch am danynt, a dyfyna adnodau afrifed yn corffori ei ddiolchiadau]. Ond mi af heibio iddynt oll yn awr at un peth, sef gwaith Duw yn fy ngosod a fy nghynal hyd yma er's blynyddoedd (dros 10) lawer bellach yn y fath oruchel, anrhydeddus, ac adeiladol sefyllfa i'w ogoneddu; ac hefyd er fy ngwneuthur yn ddefnyddiol i'm cyd-drafaelwyr i'r byd tragwyddol. Nid wyf yn gwybod am un sefyllfa yn y byd ag y mae yr holl bethau hyn yn cydgyfarfod yn fwy cryno nag yn hon. Rhyfedd, rhyfedd, ie, mi a ryfeddaf byth, os caf y fraint o fy ngwneuthur yn ffyddlon, a'm cyfrif felly gan fy Nuw. O! na bai genyf ddeall, dawn, ac ymadrodd i fynegu rhinweddau fy Nuw, mewn clodforedd a diolchgarwch am y mawrion oruchwyliaethau, a'i weithredoedd ef tuag ataf i'm gosod a'm cynal yn y sefyllfa hon, sef i hyfforddi yr anwybodus. Yr wyf yn cydnabod fy rhwynedigaeth yn fawr i bawb a fu yn llaw yr Arglwydd yn gynorthwy i mi yr holl amser yr wyf gyda y gwaith hwn. Ac yn eu plith yr wyf yn eich anerch chwithau mewn modd caredigol, fy anwyl gynysgaeddwyr haelionus, am