Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

haru â'r ddwy arall. Dechreua ei thaith yn Llyn Tal-y-llyn, a rhed yn hamddenol heibio Abergynolwyn, a Chraig y Deryn, ac yna yn fwy arafaidd fyth, cydrhwng pentrefydd Bryncrug a Llanegryn, heibio i balasdai prydferth Peniarth ac Ynysmaengwyn, gan ymarllwys yn ymyl Tonfanau, ac yn ngolwg tref Towyn, i'r Cardigan Bay.

Yn ol hen raniadau y wlad, cymer i mewn y rhan helaethaf o ddau gwmwd, Ystumaner a Thalybont. Y ddau gwmwd gyda'u gilydd ydynt Cantref Meirionydd. Cynwysa chwech o blwyfi, Towyn, Celynin, Llanegryn, Llanfihangel-y-Penant, Tal-y-Llyn, a Pennal. Er's llai nag ugain mlynedd yn ol, cynhelid llysoedd barn gan yr ustusiaid heddwch yn Towyn, Pennal, ac Aberdyfi bob yn ail. Wedi hyny, cynhelid hwy yn Towyn ac Aberdyfi bob yn ail fis; yn awr cynhelir hwy yn Towyn yn unig. Er pan basiwyd Deddf Addysg 1870, y mae pedwar o Fyrddau Ysgol wedi eu ffurfio, Bwrdd Ysgol Celynin, Bwrdd Ysgol Towyn a Phennal, Bwrdd Ysgol Tal-y- Llyn, Bwrdd Ysgol Llanfihangel-y-Penant. Mewn ystyr grefyddol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, mae y rhan yma o'r wlad yn gwneyd i fyny un o bedwar dosbarth Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.

Yn yr amseroedd pell yn ol, yr oedd y ffyrdd i drafaelio, ond eu bod yn dra chyffredin eu cynllun, ac o wneuthuriad cyntefig, yn arwain drwy agos bob dyffryn, a thros agos bob bryn. Ond mewn amseroedd diweddarach, wedi i'r hen ddull cyntefig o deithio ar draed ac ar feirch fyned heibio, a chyn amser y cerbydau tân, yr oedd y brif ffordd i deithio yn arwain o amgylch ogylch i'r rhanbarth hwn, gan adael canol y wlad i'r teithydd i ymlwybro fel cynt. Yn y fl. 1827 y gwnaed y ffordd fawr, y turnpike road o Fachynlleth, trwy Bennal, i lawr i Aberdyfi ac ymlaen i Towyn. Wedi gwneuthur hon, yr oedd ffordd y goach fawr yn arwain i lawr gydag ochr Ogleddol Afon Dyfi, ar hyd glan y môr, ac yna i fyny gydag ochr ddeheuol yr Afon Mawddach i Ddolgellau. Heblaw hyn, yr oedd ffordd gyffelyb