Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt ymddwyn yn ostyngedig ac yn barchus tuag at bawb ymhob man; a fyddant yn dirion fel brodyr a chwiorydd wrth eu gilydd. O dan amodau i wneyd y pethau hyn y maent yn cael eu derbyn yn aelodau o'r ysgol. Y mae yr ysgolheigion ar eu dyfodiad cyntaf i'r ysgol, i blygu ar eu gliniau, a dweyd gweddi yr Arglwydd, ac atolygu ar Dduw am fendith ar eu llafur. A'r un modd ar ddiwedd yr ysgol, byddwn yn cyd—uno gyda'n gilydd i ganu hymn neu salm, gwrandewir rhyw ran o'r Gair a fyddant wedi ei ddysgu allan, a gofynir drachefn ychydig o gwestiynau yn gyffredinol. . . .

. . . Disgyblaeth yr Ysgol. Yn gyntaf, cyn dechreu ymdrin â'r troseddwr, ar ol clywed am y cyhuddiadau, byddis yn adrodd rhanau o'r Ysgrythyr, megis y rhai canlynol— Na chydnabyddwch wynebau mewn barn (Deut. i. 17); Na ŵyra farn dŷ dlawd yn ei ymrafael (Ex. xxiii. 6); Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn' (Diar, xviii. 5). Ar ol i'r ysgolheigion adrodd rhyw nifer o'r Ysgrythyrau hyn, gorchmynir i'r troseddwr sefyll i fyny yn yr ysgol, ac yna gelwir y tystion ymlaen i sefyll gerllaw y troseddwr. Yna darllenir i'r tystion y rhanau hyn o'r Ysgrythyr Na chyfod enllib: na ddod dŷ law gyda yr annuwiol i fod yn dyst anwir' (Ex. xxiii. 11); 'Na fydd dyst heb achos yn erbyn dŷ gymydog, ac na huda â'th wefusau' (Diar. xxiv. 28). Ac ar ol darllen y rhanau hyn o'r Gair, erchir i'r tystion enwi y trosedd ynghyd â'r sicrwydd fod y troseddwr yn euog. Wedi i'r troseddwr gael ei brofi yn euog trwy dystiolaethau eglur a goleu, byddis yn profi y weithred yn bechadurus trwy ranau o'r Ysgrythyr. Ac yna byddis. yn barnu pa gosb a fydd yn addas ei rhoddi ar y troseddwr, yn ol natur y trosedd, a hyny trwy gydsyniad a barn yr ysgolheigion yn gyffredinol."

Mewn un llythyr dywed pa fodd y trefnai y plant yn ddosbarthiadau, yn ol eu graddau mewn dysgeidiaeth, gan ddechreu gyda y wyddor, ac oddiyno i sillebiaeth, a dechreuid