Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

and attentive to the Welsh Circulating Charity School, established in this parish of Celynin, in the County of Merioneth, from the 2nd January last to the present date, and that the children committed to his charge have been much improved, and have received great benefit from his constant care, attention, and assiduity to the said school. This is to certify also that it is the wish of the whole of the parishioners that the school may be continued in the said parish as long as it can be.

"Witness my hand, this 13th day of June, 1812,
"THOMAS JONES, Curate of Celynin."

[Y flwyddyn hon, sef 1812, fel y gwelir yn ysgrifau L. W., y rhai y daethpwyd o hyd iddynt ar ol ysgrifenu yr uchod, bu ef yn cadw ysgol mewn tri man yn mhlwyf Celynin, o dan lywodraeth ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan. "Goddefodd Mr. Charles," ebai, "i blwyf Celynin fy nghael i gadw ysgol Madam Bevan; ond ni chawn mo honi mwy onid awn i'r Deheudir i'w chadw, yr hyn nad oeddwn yn dewis, oherwydd yr oedd rhyw rwymau caethion yn perthyn iddi, y rhai nad oeddwn yn ewyllysio myned iddynt." Rhydd hyn eglurhad ar ei gysylltiad â'r Eglwys Wladol yn y lle hwn y flwyddyn hon, ac ar ei gyfarchiadau manwl at yr ymddiriedolwyr.]

Mewn tŷ yr oedd yr achos yn Llwyngwril wedi cael ei gynal o'r dechreu hyd y pryd hwn, ac am agos i ugain mlynedd ar ol hyn. Yr oedd y tŷ wedi ei brynu a'i ddarparu gyna! y moddion. Dyddiad y weithred am y pryniad ydyw Hydref 18eg, 1819. Y pris 70p. Y flwyddyn yr adeiladwyd ef yn gapel y tro cyntaf oedd 1831. Yr oedd y Parch. Dafydd Rowland, Bala, yn un o'r pregethwyr oedd yn ei agor. Helaethwyd ef i'w faint presenol yn 1866. Rhoddwyd oriel arno drachefn yn 1876. Dyled heb ei thalu yn 1885, 75p. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 225.

Er fod yr eglwys hon wedi ei sefydlu yn un o'r rhai cyntaf yn y cylchoedd, eto parhaodd am faith amser yn fechan ei rhif, ac yn dlodaidd ei hamgylchiadau. Nid oedd ei rhif yn