Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1845, y flwyddyn gyntaf y casglwyd ystadegau, ond 24, ac nid oedd iddi yr un blaenor y flwyddyn hono. Bu am dymor hir yr adeg hon heb neb wrth ei swydd yn blaenori ynddi. Dywedai Lewis Morris mewn Cyfarfod Misol rywbryd, "Y mae eisiau gwneyd blaenoriaid yn Llwyngwril." "Oes yno rai i'w gwneyd?" gofynid yn y cyfarfod. "Oes," atebai yntau, "mae yno ddau, ond mae un yn hen o ran oed, a'r llall yn ieuanc o ran crefyddwr." Penderfynwyd fel y canlyn mewn Cyfarfod Misol yn Tachwedd, 1846, Fod Mr. W. Davies, Llechlwyd, a Mr. G. Jones, Glanmachlas, i fyned amlaf y gellid i Lwyngwril, i roddi rhyw help i'r eglwys wanaidd sydd yno yn ei hamgylchiadau allanol." Nid oedd yr amser hwn ddim ond tri yn perthyn i'r eglwys a fyddai yn arfer cadw moddion yn gyhoeddus. Yr oedd yma gyfarfod pregethu yn cael ei gynal adeg bell yn ol, a chedwid ef un tro gan y Parchn. John Jones, Talsarn; Richard Humphreys, Dyffryn, a Glan Alun. Yr hyn a roddwyd i John Jones, Talsarn, am ddyfod yma i gadw cyfarfod pregethu oedd 5s., ond rhoddodd Sion William beth iddo o'i boced ei hun i dalu ferry afon Abermaw, er mwyn iddo beidio tolli ar y swm cyn myned dros yr afon. Ni bu yn yr eglwys ond ychydig nifer o flaenoriaid o'r dydd y sefydlwyd hi hyd heddyw. Ar ysgwyddau y ddau Sion Vychan y bu yr achos am y deugain mlynedd cyntaf. Duwioldeb a ffyddlondeb oedd hynodrwydd penaf Sion Vychan fawr. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol. Un o'r aelodau cyntaf o eglwys Pennal y mae yr ysgrifenydd yn gofio yn cael ei chladdu oedd merch iddo ef, o'r enw Ann Lewis. Dywedai gyda diolchgarwch ychydig cyn marw mai L. W. oedd wedi ei dysgu hi i ddarllen y Beibl gyntaf erioed. Byrach na'r cyffredin ei ddawn oedd yr hen ŵr S. Vychan fawr, ac felly yr ydym yn tybio na neillduwyd mo hono ef yn flaenor. Yr oedd ganddo ffordd hynod i weddio, terfynai ei weddi bob amser gyda'r geiriau canlynol:—"Hwda ni Arglwydd; cymer ni yn rhodd ac yn rhad, trwy Iesu Grist, Amen."