Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sion Vychan Vach. Efe oedd y blaenor cyntaf yn Llwyngwril. Meddai lawer mwy o ddawn na'i frawd crefyddol o'r un enw ag ef. Perthynai iddo lawer iawn o hynodrwydd yn gystal a chrefyddolrwydd. Adroddai ei brofiad unwaith yn Nghyfarfod Misol Sion:—" 'Rwyf yn gweled fy lle yn bwysig iawn; rwyf yn gweled fy swydd yn bwysig iawn." Dyna a ddywedai beth bynag a ofynid iddo. "Gadewch i Sion Vychan Vach a'i swydd," ebe Mr. Charles, "y mae ef a'i swydd yn. dyfod ymlaen yn bur dda." Nid oedd ei wraig, Betti Sion, yn proffesu, ac erlidiai ei gwr yn dost. Cuddiodd ei esgidiau un tro pan oedd wedi meddwl myned i gyfarfod pregethu i Penrhyndeudraeth. Ni ddarfu hyny ei ddigaloni, ond cychwynodd yn ei glocsiau. Aeth hithau ar ei ol hyd at Ferry Abermaw, gan fwrw allan fygythion lawer; cydiai yn filain yn y cwch, ac wedi colli gafael o hono, lluchiai gerig ato i'r afon, a bygythiai os na ddeuai yn ol y rhoddai hi derfyn ar ei heinioes. "Gwell i chwi fyn'd yn ol," ebe y cychwr, "rhag i beth fel hyn ddigwydd." "Y diafol sy'n ei dysgu i ddweyd fel yna," ebe yntau, "mi af i wrando gweision Duw, ac mi gadawaf hi dan ofal y Gwr." Erbyn cyraedd y Penrhyn, mewn lludded mawr, clywai y pregethwr gwr dieithr o'r Deheudir—yn bloeddio, "Y maes yw y byd, a'r medelwyr yw yr angylion." Cafodd wledd iddo ei hun, fwy na digon o dâl am ei helbulon. Pan ddychwelodd adref, cafodd ei wraig yn ei dillad a'i hiawn bwyll, ac heb foddi ei hun yn llyn Gerwyn, fel y bygythiai. Breuddwydiodd freuddwyd hynod ar ol y daith hon i'r Penrhyn. Gwelai ei hun mewn cyfarfod pregethu mawr yn Llwyngwril; y bobl oll yn edrych tua'r drws, daeth lady i mewn mewn gwisg wen glaerwen, a choron o aur melyn ar ei phen; cerddai y lady yn ol a blaen, at hwn a'r llall, a dywedai wrth Sion, "Cymer gysur Sion, mi symudaf y rhwystr oddiar dy ffordd dithau!" Effeithiodd y breuddwyd yn fawr arno. "Beth tybed all fod y rhwystr?" meddai wrtho ei hun. Ymhen enyd wedi hyn, pan yn dychwelyd oddiwrth ei orchwyl ar