Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddydd gwaith, a moddion wedi dechreu yn y capel, clywai orfoleddu mawr, a phwy welai yn gorfoleddu ond Betti, ei wraig. "Wel," meddai, "dyma y breuddwyd wedi ei gyflawni, a'r rhwystr wedi ei symud!" Breuddwydiodd wedi hyn. Yr oedd ganddo gred mewn breuddwydion. Gwelai ei hun. yn agos i lyn y Gerwyn, uwchlaw i bentref Llwyngwril, mewn adeilad mawr, a swn mawr yn yr adeilad; beth oedd y swn ond pedair melin yn malu; erbyn myned atynt, yr oedd blawd ymhob melin: ond pan aeth at y bedwaredd, yr oedd. llawer mwy o flawd yn hono na'r tair eraill gyda'u gilydd. Y pedair melin ydoedd y pedair sect oedd yn Llwyngwril—y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Wesleyaid, a'r Bedyddwyr. A'i sect ef ei hun, bid siwr, oedd y felin yr oedd mwyaf o flawd ynddi. Yr oedd yr eglwys yn Llwyngwril unwaith yn meddwl codi dyn ieuanc i bregethu, ond yr oedd Sion Vychan Vach yn ei erbyn. Ryw noswaith, rhoddwyd y mater i lawr yn y seiat; yntau yn ddiau yn dipyn o frenin y pryd hwn, a ddadleuai yn gryf yn erbyn. Modd bynag, aeth yr eglwys yn gyfan yn groes iddo. "Rhaid i ni derfynu," meddai, pan welodd hyn, ac aeth i weddi ei hun. Yn ei weddi, dywedai wrth y Brenin Mawr fod yr eglwys yn cael ei rhwygo, fod pawb a elai heibio ar hyd y ffordd yn tynu ei grawn hi; y baedd o'r coed yn ei thurio, a bwystfil y maes yn ei phori. Ac yna dechreuodd ddiffodd y canwyllau. Aeth son am y weddi hon i bob man o amgylch. Dywedai Owen Evan, Tyddynmeurig, wrth rywun o Lwyngwril wedi hyn, pan yn son am y weddi, "Wyddost ti beth, fe gyrhaeddodd y weddi hono cyn belled â Phenyparc!" Er hyny, hen Gristion i'r carn oedd Sion Vychan Vach. Yr oedd dadleuon mawr cyn diwedd ei oes yn Llwyngwril, rhwng y gwahanol sectau; ac yr oedd yntau un diwrnod, wrth godi y glwydad yn y felin, yn dadleu yn boethlyd gydag un o'r Wesleyaid, pan y daeth perchen y felin i fewn, a dywedai, "Sion, Sion, yr wyt yı colli dŷ le." "Pwy bosibl i mi beidio," eb efe, "a'r dyn yma