Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn myn'd dan sylfaen fy enaid i?" Yn nhŷ Sion Vychan Vach y byddai y pregethwyr yn cael bwyd yn yr amser cyntaf. Un tro, yr oedd John Elias i fod yn Llwyngwril, pan ar daith yn pregethu, ac i fod yno yn y boren. Yr oedd y wraig, Betti Sion, mewn pryder mawr, yn methu gwybod beth a gai i ginio iddo. Y boreu hwnw, fel yr oedd ei mab John yn croesi y bont, yn nghanol y pentref, gwelai bysgodyn mawr wedi dyfod i fyny o'r môr, ac yn llechu yn nghysgod careg; diosgodd ei ddillad, torchodd lewys ei grys, a llwyddodd i'w ddal. Aeth ag ef adref i'w fam yn llon'd ei freichiau. "Wel, yn wir," ebe ei fam, "dyma y Brenin Mawr wedi gofalu am danom i gael cinio i Mr. Elias." A dywedai wrth Mr. Elias amser cinio, rhyw bysgodyn sydd gen i i chwi i ginio, nis gwn a ellwch wneyd rhywbeth ág ef." "Nid oes dim yn yr holl fyd a allasech gael yn well," ebe yntau. Bu yr hen bererin Sion Vychan Vach farw oddeutu y flwyddyn 1834, trwy foddi yn ddamweiniol yn yr afon. Yr oedd mewn gwth o oedran, ac yn llesg, ac oherwydd iddo fyned yn rhy agos i'r afon, syrthiodd iddi. Yr oedd yn yr ardal ŵr arall o'r enw Sion Vychan, ac a elwid, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth y ddau arall, yn Sion Vychan ganol. Bedyddiwr zelog ydoedd hwn, a bu lawer gwaith yn tynu y dorch mewn dadl â Sion Vychan Vach; a phan y clywodd am y dull y bu farw, gorfoleddai o lawenydd fod ei hen gyfaill wedi myned i'r nefoedd yn y ffordd iawn. "Wel, Wel," meddai, roeddwn i yn dweyd wrtho o hyd fod yn rhaid i bob un aiff i'r nefoedd fyned dros ei ben yn gyntaf."

Y ddau flaenor nesaf oeddynt John Davies, y Fegla, a William Davies ei frawd. Aeth W. Davies i'r America. Symudodd J. D. i'r Fegla Fawr, a bu yn flaenor yn nghapel Sion hyd ddiwedd ei oes. Henry Williams, brawd David Williams, y blaenor presenol, a ddewiswyd wedi hyny. Yr oedd ef yn ŵr crefyddol a gobeithiol. Bu farw 45 mlynedd yn ol, yn 25 oed. Bu yma amryw frodyr eraill yn ffyddlon gyda'r achos, ond heb eu neillduo i'r swydd o flaenoriaid. Un