Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

David Williams. Bu ef farw yn sydyn yn ngwanwyn y flwyddyn hon (1888). Derbyniwyd ef yn flaenor ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol yr un amser a Hugh Thomas, sef Hydref 1860. Yr oedd wedi gwneuthur llawer o waith blaenor cyn hyny, fel ei dad o'i flaen. Gweithiai gyda chrefydd yn ddistaw, heb i neb ar y pryd wybod ei fod yn gweithio. Efe fyddai yn gofalu am y capel ac yn ei oleuo, a pharotoi i fyned i agor y capel yr oedd pan yn sydyn y cymerwyd ef yn glaf. Efe hefyd hyd yn ddiweddar a arferai arwain y canu. Yr oedd yn ŵr crefyddol iawn, yn weddïwr mawr, ac yn weithiwr. cyson gyda chrefydd. A thrwy y pethau enillasai ddylanwad mwy na'r cyffredin yn yr eglwys a'r ardal. Teimlad pawb o'i gymydogion oedd fod ei golli yn golled fawr.

Gwelodd Llwyngwril achos crefydd fel "myrtwydd yn y pant " dros driugain a deg o flynyddoedd; ond o amser y Diwygiad yn 1860 hyd yn awr, y mae gwell llewyrch wedi bod arno. Yr oedd y pregethwr adnabyddus Richard Jones, Tŷ Du, yn aelod gyda'r Methodistiaid yma yn moreuddydd ei oes; ond oherwydd cerydd eglwysig a roddwyd ar ei frawd, ymadawodd ef a'i deulu oddiwrth y Methodistiaid oddeutu 1804, yr hyn a arweiniodd i ffurfiad achos gan yr Annibynwyr yn Llwyngwril. Y blaenoriaid presenol ydynt Mri John Evans, Richard Owen, a David Parry. Bu y diweddar Barch. Owen Roberts yn weinidog yr eglwys am 13 mlynedd. Y mae y Parch. Richard Rowlands mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys yn bresenol er 1882.

Y Parch. Owen Roberts. Genedigol oedd ef o ardal Llanrhochwyn, Trefriw. Yr oedd yn fab i John Roberts, hen filwr oedd yn bresenol yn mrwydr Waterloo. Chwarelwr oedd O. Roberts wrth ei gelfyddyd, a gweithiodd yn galed pan yn ddyn ieuanc i gynal ei fam weddw. Dechreuodd bregethu yn Nhrefriw, ac efe y pryd hwnw yn gweithio yn Nghwmorthin, un o chwarelau Ffestiniog. Cerddai 20 milldir yn fynych ar y Sabbath, a chychwynai bump o'r gloch y boreu ddydd Llun at