Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cydio Machynlleth a Dolgellau a'u gilydd, gan arwain trwy Gorris, igam ogam, o benelin i benelin, i fyny ac i lawr, i lawr ac i fyny. Y lle y rhoddwyd yr ager-beiriant i redeg gyntaf yn Sir Feirionydd, ni debygwn, ydoedd rhwng Aberdyfi a Towyn. Cymerodd hyn le yn 1863 neu 1864. Er y flwyddyn 1867, mae rheilffordd glanau Cymru yn rhedeg ar draws y pen agosaf i'r môr o'r sir, ac yn cysylltu De a Gogledd Cymru a'u gilydd. Pe cymerai dieithr-ddyn ei eisteddle yn ngherbyd y rheilffordd, yn ngorsaf Machynlleth, a myned ymlaen trwy Aberdyfi, Towyn, a Llwyngwril i Barmouth Junction, ac i fyny drachefn i Ddolgellau, byddai wedi amgylchynu llain o wlad ar lun pedol, ond ei bod hi yn bedol o faintioli mwy na phedol ceffyl. Tyned linyn drachefn dros y lle gwag i'r bedol, gan uno y ddau ben a'u gilydd, dyna y rhan o'r wlad sydd yn myned wrth yr enw 'Rhwng y Ddwy Afon.'

Mae arwynebedd y wlad, a golygfeydd swynol natur yn dra amrywiol a phrydferth, a dyma lle mae "Bryniau Meirionydd i'w gweled harddaf o un rhan o'r sir. Mae copäau y bryniau gan mwyaf yn foelion a llymion, a gwaelodion y gwastadedd yn gynyrchiog, cnydiog, a chynharol. Yn debyg iawn i Mesopotamia, gwlad meibion y dwyrain, y mae Mesopotamia Sir Feirionydd, yn wastadedd yn un pen, ac yn myned yn fwy mynyddig fel yr eir tua'r Gogledd Ddwyrain.

Ar y cwr pellaf oddiwrth y môr, a thu cefn i'r dyffrynoedd a'r bryniau rhwng y Ddwy Afon, y mae CADER IDRIS. Y mynydd hwn, yr hwn sydd 2914 o droedfeddi uwchlaw y môr, a arferid ei ystyried yn uwchaf yn Sir Feirionydd, a'r ail mewn uwchder yn Nghymru. Ond y mae mewn gwirionedd un arall yn uwch na'r Gader, sef Aran Fowddwy, yr hwn sydd yn 2955 o droedfeddi o uchder. Mae Cader Idris wedi cael ei enw oddiwrth Idris Gawr, ser-ddewin nerthol a chyfrwys. Ar grib uwchaf y mynydd yr eisteddai y cawr, "i efrydu cylchdeithiau y llu wybrenol, a dysgu ganddynt dynged a damwain dyn," am ba achos y gelwir y mynydd wrth ei enw—Cader Idris.