Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhan yma o'r wlad yn 1780, gellir tybio fod ambell un yn mhlwyf Llanegryn, yn ystod y deng mlynedd dilynol, yn cael tueddu ei feddwl i wrando yr efengyl. Ychydig o gyfeillion crefyddol eu naws, fel rhyw loffion grawnwin, un yma ac acw." Dyna yr oll sy'n wybyddus am hanes crefyddol y plwyf rhwng. 1780 a 1790. Yr hanes cyntaf sier am y lle ydyw yr hyn a geir yn Methodistiaeth Cymru:—"Yr oedd i'r Methodistiaid achos bychan cyn hyn (1795) yn Llanegryn. Bu dyfodiad tad Cadben Edward Humphreys a'i deulu i fyw i Peniarth, yn mhlwyf Llanegryn, yn gryfhad mawr i'r ychydig broffeswyr ag oedd yno eisoes. Dywedir mai tri oedd yn proffesu yn y plwyf pan ddaeth y teulu hwn i Beniarth. Nid oedd gwr Peniarth ei hun yn proffesu, ond yr oedd ei wraig a'i fam-yn-nghyfraith, ac yr oedd yntau yn gwybod digon am Fethodistiaeth i beri iddo siarad yn dirion am dano, a bod yn barod i wneuthur- cymwynas iddo. Yn fuan ar ol dyfodiad y teulu hwn i Beniarth, cymerodd y wraig dy bychan yn mhentref Llanegryn. Y darluniad a roddir o'r tŷ hwn sydd debyg i hyn Tŷ wedi. ei adeiladu o bridd ydoedd; gwellt oedd ei do, a phridd oedd ei lawr. Ei holl ddodrefn ydoedd un fainc i eistedd a phulpud.. Ac nid pulpud cyffredin ydoedd chwaith. Gwnaed ef o ddau bolyn wedi eu curo i'r llawr pridd, ac ar y polion hyn yr oedd. ystyllen gref wedi ei hoelio, i ddal y Beibl. Ceryg wedi eu. tyru ar eu gilydd, ac wedi eu gorchuddio â thywyrch gleision sefyll arnynt.'" Ychwanegir hefyd, "yma y bu pregethu am rai blynyddoedd ar ol y flwyddyn 1783." Os yw hyn yn gywir, yr oedd pregethu amlach yma yn foreuach na'r ardaloedd cylchynol. Ond llawn mor debyg mai gwall argraffyddol sydd yma. "Yr oedd gwr Peniarth yn warden y plwyf, trwy fod y wardeiniaeth yn gysylltiedig â'r tyddyn. Fe fyddai aflonyddu weithiau ar yr addoliad yn y lle bach hwn,. ond nid cymaint ag a fuasai pe na buasai Mr. Humphreys yn warden; yr hwn fyddai ei hun yn achlysurol ymhlith y gwrandawyr. Yr oedd tafarnwr o'r enw Richard Anthony yn