Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahanol leoedd addoliad o dan nawdd y gyfraith, a rhoes y gŵr bonheddig ei amcan heibio."

Yn perthyn i'r un cyfnod yr oedd yr hen wraig y ceir ei hanes yn mynu dilyn moddion gras er gwaethaf gwrthwynebiad ei gŵr, ac yn myned iddynt yn ei chlocsiau. "Yr oedd yn ardal Llanegryn hen wraig yn un o'u nifer [sef yn un o'r rhai a ddilynent foddion gras trwy rwystrau], yr hon a wrthwynebid yn greulawn gan ei gŵr i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol. Er ei hatal, arferai guddio ei hesgidiau; hithau, yn hytrach na cholli y moddion, a âi iddynt yn ei chlocsiau. Ac ymddengys mai nid 'ofer y bu ei llafur yn yr Arglwydd,' gan y dywedai yn orfoleddus wrth ei gŵr, ychydig cyn marw, 'Mae y clocsiau wedi cario'r dydd.'"

Y peth nesaf o ddyddordeb am Lanegryn ydyw yr hanes. am Lewis William yno yn cadw yr Ysgol Sul, ac ysgol ar nosweithiau gwaith, i ddysgu plant i ddarllen, pryd nas gallasai ef ddarllen dim ei hun. Ceir ei hanes yn helaethach mewn lle arall. Yr oedd L. W. yn cadw Ysgol Sul yn y modd hwn, oddeutu dwy flynedd yn flaenorol i 1800. Yr oedd y son am dano yn gwneuthur hyn wedi cyraedd i glustiau John Jones, Penyparc, oblegid tua'r flwyddyn 1799 yr oedd y gŵr hwnw yn adrodd yr hanes wrth Mr. Charles, o'r Bala, ac yn ei gymell iddo fel un a allai wneuthur ysgolfeistr gyda yr Ysgolion Rhad. cylchynol.

Dywed L. W. ei hun am yr ardal yr adeg yma, "Yr oedd yn Llanegryn y pryd hyn, un dyn pur dlawd, a dwy wraig, ac arwydd neillduol arnynt eu bod yn ofni yr Arglwydd. Enw y gŵr oedd Edward Jones. Enw un o'r gwragedd oedd Mrs. Jane Humphreys, gwraig gyfoethog a chrefyddol iawn; enw y llall oedd Elizabeth Evans, gwraig dlawd o bethau y byd hwn, ac yn dioddef erledigaeth fawr oddiwrth ei gŵr. Yr oedd hon yn nodedig o dduwiol, a bu o gysur a chymorth mawr i mi Byddai y rhai hyn yn ymgynull unwaith yn yr wythnos i ddarllen a chyd-weddio, a dweyd eu profiadau i'w gilydd, a