Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn tŷ, yr oedd nifer o bobl wedi dyfod ynghyd, a'r merched oedd yno yn brysur wäu eu hosanau. Tra yr oedd un o'r ddau frawd arall ar ei liniau yn gweddio, yr oedd y bobl yn myn'd a dyfod allan, a'r merched a arosent wrthi hi yn gwäu hosanau, ac ofnai R. Griffith iddynt fyned allan i gyd cyn i'r brawd orphen gweddio, a dywedai ynddo ei hun, "Pe cawn i fyned ati hi, mi cadwn i hwy i fewn." Ond pan ddaeth ei dro, nid oedd pethau fymryn gwell, myned allan yr oeddynt ar ganol ei weddi yntau.

Bu yr eglwys yn Llanegryn yn derbyn cynorthwy i gario y moddion ymlaen am flynyddoedd meithion ar ol cychwyniad cyntaf yr achos yno, a hyny yn benaf oddiwrth eglwysi y Bwlch a Bryncrug, ac i'r lle olaf yr elai aelodau yr eglwys i'r cymundeb dros hir amser. Ystyriai yr eglwysi bychain cylchynol Jno. Jones, Penyparc, fel tipyn o frenin yn gystal a bugail arnynt. Dywed rhai fu yn byw yn yr ardal wedi hyn, fod parhau i fyned i'r cymundeb i Bryncrug, yn lle ymroddi i fod yn gwbl ar eu penau eu hunain, wedi bod yn wanychdod mawr i'r achos yn Llanegryn, ac effeithiodd ar y lle i fesur hyd heddyw. Y mae Mr. David Davies, mab i William Davies, Llechlwyd, yn cofio, pan yr oedd ef tuag wyth oed, ei dad yn dyfod i'r tŷ un noson waith ar ol bod yn Llanegryn yn cadw society. Yr oedd ei fam ar y pryd yn eistedd wrth y tân, yn gwäu, ac meddai W. D., "Fe ddaeth tri i'r seiat yn Llanegryn heno." Y wraig, gan ollwng yr hosan o'i llaw ar unwaith, a ddywedai, "Fe ddaeth yn wir? Oes genych ryw feddwl. honynt, William?" "Oes," atebai yntau, "mae genyf dipyn o feddwl o un o honynt, 'does genyf fawr feddwl o'r ddau arall." Felly yn union y troes pethau allan: ymfudodd yr un hwnw i'r America, a daeth wedi hyny yn bregethwr yno. Wele, gymaint o ddyddordeb a gymerai gwr a gwraig y Llechlwyd yn yr achos y pryd hwn! Ar ol hyn, daeth eu plant a'u hwyrion hwythau yn golofnau o dan achos crefydd, yn ngwahanol barthau y byd.