Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Llanegryn yn 1811; mae y weithred wedi ei dyddio Mai 13eg, y flwyddyn hono. Cafwyd tir yn nghwr y pentref, ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o 15s., gan Mr. David Davies, yr hwn oedd yn berchen y tyddyn a elwir y Trychiad. Yr oedd ef yn dad i'r blaenor blaenllaw gyda yr Annibynwyr yn Mhennal, Mr. Morris Davies, Cefnllecoediog. Yr ymddiriedolwyr oeddynt—Thomas Charles, B.A., William Hugh, Howell Thomas (Cwrt), Robert Griffith, Lewis Morris, Owen Evans (Tyddynmeurig), a John Jones, Penyparc. Nid oes wybodaeth pa faint oedd y draul. Yr oedd dyled ar y capel yn 1824, oblegid mewn llythyr at Lewis William, yr hwn oedd ar y pryd yn ysgolfeistr yn Nolgellau, dyddiedig Mawrth 30ain y flwyddyn hono, dywed John Jones, Penyparc, "Yr ydwyf yn dymuno arnoch hysbysu Mr. R. Griffith fod arnaf eisiau yr arian sydd ddyledus i mi oddiwrth logau a ground rent capel Llanegryn. Y swm ydyw £2 10s. 4c. Fe'm siomwyd amryw weithiau am danynt. A thalwch 13s. o honynt i John Peters at y Casgliad Bach. Mae fy merch yn hytrach yn waeth yr wythnos yma nag y bu, onide buasai yn dda genyf fod yn y Gymdeithasfa gyda chwi. Yr ydwyf yn mhellach mewn modd neillduol yn deisyf arnoch roddi eich cyhoeddiad yma—ni feddwn ni yr un Sabbath ond y nesaf a bydded i chwi o'ch hynawsedd fod yn anogaethol i eraill ddyfod. Yr ydym wedi bod yn dlawd iawn am foddion y mis diweddaf. Mae fy meddwl yn isel, a'm natur yn llesg, ynghyda gwaeledd fy unig ferch. Cofiwch am danom o flaen gorsedd gras. Wyf, eich profedigaethus frawd yn rhwymau yr efengyl, John Jones. D.S. Fe fydd i Humphrey y gwas ddyfod ddydd Iau i Ddolgellau. Rhoddwch y llyfrau a'r £2 arian iddo ef. Mae arnaf eisiau yr arian yn ddiffael i dalu y rhent ddydd Iau." Casglodd Llanegryn £40 at ddiddyledu capelau y Dosbarth yn 1839, ac nid yw yn ymddangos iddynt hwy dderbyn dim o'r casgliad cyffredinol, y tebyg wrth hyny ydyw eu bod hwy eu hunain yn ddiddyled y