Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn hono. Yn 1848 prynwyd y brydles am £30, ac oddeutu yr un flwyddyn adgyweiriwyd y capel. Yr oeddynt mewn dyled drachefn yn 1850, o £80. Yn 1878 gwnaed y capel o newydd, yn y maint y mae yn bresenol, ac aeth y draul yn £450. Cynwysa y capel le i 160 eistedd ynddo. Gwerth presenol y capel a'r eiddo perthynol iddo ydyw £675.

Y mae pob gwybodaeth am y tô o grefyddwyr cyntaf Llanegryn bron wedi llwyr ddiflanu. Ni wyddis am enwau ond rhyw ddau neu dri o deuluoedd fu a llaw gyda dygiad yr achos ymlaen am y deugain mlynedd cyntaf. Dywed Owen William mai dau o'r brodyr crefyddol yno a'u perswadiodd ef i ddechreu pregethu, a bod un o'r ddau yn flaenor, ond ni chawsom wybod pwy ydoedd y blaenor, na'r un o'r brodyr eraill. Gan nad oes hanes y ffyddloniaid yn Llanegryn, am y deugain mlynedd hyn, ar gof a chadw, nid oes dim i'w wneyd ond myned heibio iddynt mewn distawrwydd. Y mae un teulu, modd bynag, oedd ymhlith y ffyddloniaid yma yn nechreu y ganrif hon yn teilyngu sylw, sef teulu Vincent ac Elizabeth Jones, Talybont. Ymddengys nad oedd y gwr yn proffesu tra y bu yn aros yno, ond yr oedd Elizabeth Jones yn wraig nodedig o grefyddol. Y teulu hwn oedd yn lletya pregethwyr dros y nos y pryd yma, a chan fod Talybont filldir neu fwy oddiwrth Lanegryn, deuent a bwyd i'r pregethwyr i'r pentref. Yr oedd gan y teulu liaws o blant, a dygid hwy i fyny yn grefyddol gan eu mam. Bu dau o'r plant—Vincent ac Anne—farw yn dra ieuanc, o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, mewn canlyniad i glefyd poeth oedd yn y tŷ. Ymddangosodd ychydig goffadwriaeth am danynt yn y Drysorfa, Gor., 1822, o'r hyn y mae a ganlyn yn ddyfyniad:—

"Yn fuan wedi i'r cyfarfodydd Chwechwythnosol gael eu sefydlu yn y cylch hwn, rhwng y Ddwy Afon, penderfynwyd yn un o honynt, fod i'r holl ysgolion gadw cyfarfodydd neillduol gyda'r rhai moesol o'r ysgolheigion; a golygwyd hwythau (Vincent ac Anne Jones) i fod yn aelodau o honynt. Ymhen