Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig, buddioldeb y cyfarfodydd hyny a ddaeth yn amlwg; ieuenctyd yr ardal a ymglymasant mewn undeb a'u gilydd, a chariad brawdol a flagurodd yn eu plith, a dygwyd llawer i'r agwedd hono, 'i gloffi rhwng dau feddwl.' Ac mewn cyfarfod o'r fath a enwyd torodd allan yn ddiwygiad grymus, ac yn y diwygiad hwn symudwyd y ddau hyn i'r eglwys."

Bu y ddau farw Mai, 1821, mewn gorfoledd mawr, Vincent yn 17 oed, ac Anne yn 22 oed. Diwygiad Beddgelert oedd hwn, a dyma flaenffrwyth y diwygiad yn yr ardal hon. Torodd allan, fel y gwelir, ymhlith y plant. Mor fawr oedd gofal arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y pryd hwn, yn trefnu "i gynal cyfarfodydd neillduol gyda'r rhai moesol o'r ysgolheigion!" Nid oedd rhyddid i blant fod yn y society cyn hyn, ond gwelwyd fod yr Arglwydd yn bendithio yr ymgais gyntaf i lafurio gyda hwy. Yr oedd yr un peth yn cael ei wneyd yr un amser yn Nolyddelen, cwr pellaf yr un Cyfarfod Misol, pan yr oedd bechgyn Tanycastell yn blant, yr hyn a fendithiwyd mewn modd neillduol iddynt hwythau. Mor werthfawr, hefyd, i'r plant ydoedd fod esiampl grefyddol yn cael ei roddi iddynt yn eu cartref Symudodd y teulu hwn o Dalybont i Lanerchllin, ardal Maethlon, oddeutu 1825. Mab arall i Vincent ac Elizabeth Jones oedd y pregethwr adnabyddus, y Parch. William Jones, o Lanerchllin, Maethlon; a mab arall iddynt, hefyd, oedd John Jones, yr hwn a dreuliodd y rhan olaf o'i oes yn flaenor duwiol a gweithgar yn Aberdyfi. Byddai ei fam yn arfer rhoddi ei llaw ar ben John, pan oedd yn fachgen yn Nhalybont, bob amser cyn iddo gychwyn i races ceffylau Towyn, ac arferai John ddweyd, wedi iddo ddyfod yn ddyn, ac yn grefyddwr, mai clywed llaw ei fam ar ei ben a fu yn foddion ei dröedigaeth. Gwelir ychwaneg o hanes y wraig dra rhagorol hon mewn cysylltiad â Maethlon.

Wedi colli y teulu hwn o Lanegryn, cododd Rhagluniaeth un arall i ofalu am yr achos yma yn mherson Mr. Llwyd, y Siop. Yr oedd ef mewn amgylchiadau da, a chanddo dŷ helaeth