Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyfleus yn nghanol y pentref. Heblaw hyny, yr oedd ganddo galon rydd, ac ni fu yn brin mewn unrhyw fodd tuag at achos yr Arglwydd Iesu. Gwir ofalai am yr achos yn ei bobpeth allanol; cadwodd y pregethwyr a'u ceffylau am lawer o flynyddoedd; gofalai am y cyhoeddiadau, ac am y llyfrau; cyhoeddai ar ddiwedd y moddion. Ond gadawai bethau ysbrydol yr achos i rywrai eraill. Ni ddewiswyd mo hono yn flaenor, ac yn wahanol i lawer, nid oedd arno eisiau cael ei ddewis. Dywedir mai efe a orchfygodd J. J., Penyparc, i gael yr eglwys yn Llanegryn i fod yn hollol arni ei hun, yn lle myned i Brynerug i'r cymundeb bob mis. Daeth Mr. Llwyd yma oddeutu 1820, a bu am ddeugain mlynedd, sef hyd ei farwolaeth, yn gefn mawr i'r achos.

Heblaw Mr. Llwyd, bu yr eglwys yn amddifad o ddynion blaenllaw mewn adeg foreuol yn ei hanes. Y blaenor cyntaf y cawsom ei enw ydoedd Evan Jones, un o'r ddau frawd o'r Dyffryn Gwyn yn cychwyn yr achos yn Maethlon. Gŵr duwiol iawn, ond heb allu na dylanwad i flaenori. Humphrey Pugh a fu yn flaenor yma cyn symud i'r Tonfanau, Sion Robert, Nantcynog, oedd ŵr da iawn, ac a ddewiswyd yn flaenor, fel y'n hysbyswyd, yn 1837, ond a wnaethai waith blaenor lawer o amser cyn hyny. Mae ei deulu ymhlith y rhai ffyddlonaf yn Llanegryn hyd heddyw.

Yn y flwyddyn 1836 y symudodd meibion a merched y Parch. Richard Jones, y Wern, o Rhosigor i Glanmachlas. Bu eu dyfodiad hwy yno yn foddion i roddi bywyd newydd yn yr achos. "Nid oedd neb yn flaenor yno y flwyddyn hono," ebe Mr. Jones, yn awr o'r Tymawr, Towyn, "ac yr oedd yr achos yn hynod o isel." Dywed, hefyd, yn mhellach, iddo ef fyned i'r society lawer gwaith, a neb yn dyfod yno i'w gyfarfod. Byddai yr eglwysi yn hwyrfrydig iawn i ddewis blaenoriaid y blynyddoedd hyny. Modd bynag, dewiswyd Mr. G. Jones yn flaenor yn Llanegryn y flwyddyn gyntaf wedi iddo ymsefydlu yn Glanmachlas, sef yn 1837. Bu ei frawd, Mr. John Jones,