Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd crediniaeth yn bod am oesau, y byddai i bwy bynag a eisteddai am noswaith yn y gadair ar ben y mynydd gael ei drawsffurfio erbyn y boreu yn fardd, yn gelain farw, neu yn ysbrydoledig! Y mae mwy o berthynas hanesyddol rhwng y mynydd hwn â Dolgellau, am mai oddiyno yn fwyaf cyffredin y cymerir taith i'w ben. Y mae llawer o gyrchu, oes ar ol oes, i ben Cader Idris gan ddieithriaid o bob cwr o'r byd, tra y mae ugeiniau yn treulio eu hoes o gwmpas ei odrau heb fod erioed ar ei ben.

Wrth odreu Cader Idris y mae Llyn Tal-y-llyn yn gorwedd yn dawel yn ei wely hirgrwn, cydrhwng mynyddoedd uchel. Ei faintioli ydyw oddeutu milldir a chwarter o hyd, haner milldir o led, a thair milldir o amgylchedd. Mae cymydogaeth y llyn yn ystod misoedd yr haf yn gyrchfa llawer o ddieithriaid. Cafodd plwyf Tal-y-llyn ei enw oddiwrth y ffaith fod llan neu eglwys y plwyf wrth dalcen y llyn.

Islaw y Llyn a'r Cader, rhyngddynt a'r môr, ar waelod gwastadedd Llanfihangel, y mae "Craig y Deryn," yr hon a elwir felly, yn ddiameu, oddiwrth y nifer mawr o adar, môrfrain, cudylliaid, cyhyrod, ac adar ysglyfaethus eraill, a heigiant o'i hamgylch. Y mae yn y graig ugeiniau o dyllau ac ystafelloedd, lle y nytha yr adar, ac y magant eu cywion. Ac ar adegai o'r flwyddyn, bydd eu sŵn yn fyddarol. Ymddyrchafa y graig yn syth ar i fyny, amryw ganoedd o droedfeddi o uchder, a'r rhan uchaf o honi yn ogwyddedig dros ei throed, nes peri arswyd ar y teithiwr a elo heibio rhag i ddarn o honi gwympo i lawr ar ei ben. Y mae bum' milldir o bellder o Dowyn, ac yn yr haf ymwelir â'r lle gan liaws o ymwelwyr, i gael golwg ar aruthredd y graig, ac ar y llu asgellog. Ar gyffiniau y rhan yma o'r wlad, ar waelod dyffryn Towyn, rhwng y dref hon â'r môr yr oedd Cantref y Gwaelod. Os ydym i gredu traddodiad, fe gollwyd gwastadedd eang, brâs, toreithiog, trwy orlifiad y môr, rhyw bedwar cant ar ddeg o flynyddoedd yn ol. Fel hyn y dywed y Trioedd am yr hanes