Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gynorthwy mawr i'r achos, ac yn flaenllaw gyda'r canu am hir amser. Efe ac Isaac Thomas oeddynt yn gofalu am arian y seti yn 1850. Mr. John Owen, yn awr o Penllyn, Towyn, a fu yn flaenor ffyddlon yma am flynyddoedd. Hugh Price, Ty'rgawen, a neillduwyd yn flaenor, ond bu farw yn lled fuan wedi hyny.

John Evans, Ty'ncornel.—Gŵr nodedig o ffyddlon; dilynai foddion gras yn gyson, er fod ganddo ddwy filldir o ffordd i'r capel. Gweithiodd yntau ddiwrnod hir cyn ei osod yn y swydd o flaenor, oblegid yn 1852 y neillduwyd ef. Bu ei weddw, yr hon oedd yn wraig dra chrefyddol, yn niwedd ei hoes, yn cadw ty capel yn Llanegryn. Y mae mab iddynt, Mr. Evan Evans, yn flaenor yn Abertrinant.

Robert Evans, Rhydygarnedd. Brawd oedd ef i'r John Evans crybwylledig. Dygwyd ef a'i frawd, a brodyr eraill i fyny yn Cefncaer, Pennal. Perthynai ei rieni i Eglwys Loegr, a dygent fawr zel drosti. Ymunodd Robert Evans â'r Methodistiaid pan yn 15 oed, mewn amser o ddiwygiad brwd gyda'r enwad hwnw yn Mhennal. Cafodd lawer o rwystrau i broffesu crefydd yn ei gartref, ac arferai son llawer hyd ddiwedd ei oes am y modd y darfu iddo orchfygu y rhwystrau. Mentrodd ef a'i frawd hŷn nag ef ofyn i'w tad a gaent gadw dyledswydd pan oeddynt yn llanciau. Ni omeddwyd hwy, er hyny elai y teulu ymlaen a'u gorchwylion yn ystod y ddyledswydd. Ond wrth ddyfalbarhau, a byw i fyny a'u proffes, aeth crefydd y llanciau yn drech na rhagfarn y rhieni. Ymhen blynyddoedd dewiswyd Robert Evans yn flaenor yn Mhennal. Dewiswyd ef drachefn gan yr eglwys yn Llanegryn, ac mewn Cyfarfod Misol yno, yn Mai 1852, ceir yr hysbysiad a ganlyn,—"Ymddiddanwyd â brodyr a ddewiswyd yno i flaenori, sef John Evans, Ty'ncornel; a Robert Evans ei frawd, a chadarnhawyd y dewisiad gan y Cyfarfod Misol." Nodwedd neillduol Robert Evans ydoedd zel a ffyddlondeb. Er ei fod yn byw agos i dair milldir oddiwrth y capel, byddai efe ymhob moddion o ras,