Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbothiol ac wythnosol, a byddai yno bob amser yn y dechreu. Yr oedd ganddo barch neillduol i foddion gras, ac i weinidogion y gair. "Nis gallai weled pa fodd y cydsafai parch i grefydd âg ymddygiad rhai crefyddwyr yn dirmygu gweinidogion yr efengyl." Rhoddai hefyd lawer o gymorth iddynt i bregethu trwy ei astudrwydd yn gwrando. Yr oedd yn weithiwr cyson yn ol ei allu gyda phob rhan o achos crefydd. Ychydig fisoedd cyn ei farw aeth ef ac un arall o gwmpas yr ardal i gasglu at ddyled y capel, ac wrth gyflwyno y swm a gasglasant i'r eglwys, dywedai, "Nid wyf am eich blino eto ynfu an am y gweddill; cewch orphwys yrwan am dipyn. Ond y mae arnaf eisiau gweled y capel yn ddiddyled; a blwyddyn i ddechreu haf nesaf, yr wyf yn bwriadu, os byddaf byw, ddyfod o gwmpas eto i ofyn eich ewyllys da, i ni gael clirio ymaith y gweddill." Ond cyn i'r amser hwnw ddyfod i fyny yr oedd ef wedi myned i dderbyn ei wobr. Bu farw Chwefror 4, 1883, yn 76 oed, wedi bod yn proffesu crefydd am 60 mlynedd, ac yn flaenor am 46 mlynedd.

William Jones, Cemmaes. Brodor oedd ef o Talsarnau. Trwy offerynoliaeth Mr. G. Jones, Tymawr, y pryd hwnw o Glanmachlas, y symudodd i fyw i Lanegryn. Argyhoeddwyd ef mewn cyfarfod pregethu yn Penrhyndeudraeth, o dan weinidogaeth y Parch. Robert Williams, Llanuwchllyn. Bu yn proffesu crefydd am 50 mlynedd, ac yn flaenor am tua 40 mlynedd, ac arhôdd ei fwa yn gryf hyd y diwedd. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn ddirwestwr aiddgar. Ymunodd â dirwest yn y cychwyn cyntaf, a chadwodd ei ddirwestiaeth yn ddifwlch hyd y diwedd. Araeth ar ddirwest a gafwyd ganddo yn y seint olaf y bu ynddi. "Mi wn i," meddai, "beth sydd mewn tafarn gystal â neb o honoch chwi; mi fum i yn byw dros haner blwyddyn mewn tafarn; yno y clywais i fwyaf o gablu, yno y clywais i gymeryd enw y Bôd mawr yn ofer, yno y gwelais i hel mwyaf o feiau ar grefyddwyr." Bu farw Ebrill 5ed, 1885.