Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edward Rees, y pregethwr.—Crydd oedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd mewn amgylchiadau isel o ran pethau y byd hwn. Bu yn pregethu am flynyddoedd yn yr ardal hon; symudodd oddiyma i Ffestiniog, ac ymfudodd i America cyn hir ar ol y flwyddyn 1840.

Evan Morris.—Yr oedd yntau yn bregethwr. Bu yn gwasanaethu gyda John Jones, Penyparc. Priododd gyda gweddw oedd yn byw yn y Trychiad, Llanegryn. Wedi bod yma am ysbaid, symudodd i fyw gerllaw Dolgellau. Ymfudodd i America Mai 16eg, 1849, a chan ei fod yn isel ei amgylchiadau, cyfranodd y Cyfarfod Misol 40p. tuag at ei gynorthwyo i ymfudo. Rhoddwyd cynorthwy, hefyd, i Edward Rees i ymfudo.

Mae y Parch. W. Davies wedi ymsefydlu yma er y flwyddyn 1859, ac wedi gwneyd gwaith gweinidog yr holl flynyddoedd hyn. Yma oedd cartref genedigol y Parch. David Jones, Talygareg ond dechreuodd bregethu wedi myned oddicartref i Loegr.

Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. Hugh Pugh, Rowland Davies, Edward Roberts, David Bennett, a Morris Roberts.

CORRIS.

Olrheinir dechreuad Methodistiaeth Corris yn rhwydd ac eglur yn ol i'r flwyddyn 1781. Trwy offerynoliaeth gwraig o'r enw Jane Roberts y torodd y wawr gyntaf ar yr ardal. Cawsai y wraig hon grefydd ychydig flynyddau cyn hyn, tra yr ydoedd yn preswylio yn Nannau, ger Dolgellau, trwy iddi fyned i wrando ar John Evans, y Bala, yn pregethu yn Maes-yr-afallen. Daeth i fyw ymhen ychydig wedi hyn i Rugog, Corris. Ac yn y flwyddyn uchod clywodd fod pregeth i fod yn Abergynolwyn, a pherswadiodd ei merch Elizabeth, a Dafydd Humphrey, y rhai oeddynt newydd briodi, i ddyfod gyda hi i wrando y bregeth, Aeth y tri gyda'u gilydd o Gorris i Abergynolwyn. Hon oedd yr ail bregeth yn ol pob