Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanes, a bregethwyd gan y Methodistiaid yn y rhan yma o Sir Feirionydd, a'r gyntaf, hyd y gellir gwybod, i neb yn Nghorris fod yn ei gwrando. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol i Dafydd Humphrey. Wrth ei gwrando, yn y fan a'r lle, gwnaeth gyfamod â'r Gwr i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear." O'r dechreuad hwn y tarddodd yr eglwys yn Nghorris, ynghyd â'r pedair eglwys a darddodd allan o honi hithau—Aberllyfeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Ysgrifenwyd hanes. Methodistiaeth yn y manau hyn gan y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, ac efe a'i cyhoeddodd yn llyfr mor ddiweddar a diwedd 1885, o dan y teitl, "Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd". Mae yr hanes wedi ei ysgrifenu ganddo ef o'r dechreuad mor gyflawn a manwl fel nas gellir rhagori arno; a chan ei fod wedi ei gyhoeddi mor ddiweddar, ni fwriedir yma ond rhoddi crynhodeb o'r pethau mwyaf angenrheidiol eu gwybod am ddechreuad a chynydd pob eglwys, fel y byddo yr oll o weithredoedd yr Arglwydd yn y parth hwn o'r wlad i'w cael gyda'u gilydd i'r oes sydd yn codi, i'w cadw mewn coffadwriaeth. Bydd felly, o angenrheidrwydd, lawer o'r ffeithiau a'r digwyddiadau a gofnodir am y pum' eglwys hyn i'w priodoli i lafur ffyddlawn Mr. Ellis, yr hwn a'u chwiliodd allan gyda dyfalwch, ac a'u hysgrifenodd gyda manylwch teilwng o hono ei hun. Cafwyd gwell mantais i wybod hanes boreuol yr achos yn Nghorris nag odid fan yn y sir, oblegid ysgrifenwyd ef yn y f. 1840, gan Mr. Daniel Evans, yr hwn oedd ar y pryd yma yn ysgolfeistr, a chyhoeddwyd ef yn y Drysorfa y flwyddyn hono. Y flwyddyn gynt y bu farw Dafydd Humphrey, sylfaenydd yr achos, a diameu fod yr holl amgylchiadau wedi eu cael gan y neb a'u hysgrifenodd o enau yr hen batriarch ei hun.

Ymhen y flwyddyn, ar ol bod yn gwrando y bregeth yn Abergynolwyn, y cafodd Dafydd Humphrey gyfle i wrando yr ail bregeth. Yr ydoedd hyn ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd erledigaeth blin a chwerw yn yr odfa hono. Dywed yr hanes