Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 1781 y bu hyn, ond wrth gymharu yr amgylchiadau, rhaid dyfod i'r penderfyniad ei bod flwyddyn yn ddiweddarach. Yna, ymhen rhyw ysbaid, cafwyd un o hen bregethwyr y Bala ar ryw Sabbath i bregethu i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Dywed Mr. Ellis mai Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr, ac mai tua 1781 neu 1782 yr oedd hyn. Yn 1780 y pregethodd Dafydd Cadwaladr ei bregeth gyntaf, yn Ngherig-y-druidion, ac fe fu bwlch o ddwy flynedd cyn iddo roddi cynyg ar bregethu drachefn, oherwydd iddo wangaloni ar ol y tro cyntaf. Os efe oedd y pregethwr a bregethai ar fin y ffordd fawr y tro hwn, rhaid mai newydd ddechreu pregethu yr oedd. Modd bynag, mae yn bur sicr mai hon oedd y bregeth gyntaf erioed a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Ac y mae dau beth yn amlwg mewn cysylltiad à hi—gwrthwynebiad cryf yr ardalwyr i dderbyn yr efengyl, a chyfryngiad rhyfedd Rhagluniaeth ddwyfol i beri i'r efengyl orchfygu. "Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono." Am y saith neu wyth mlynedd nesaf, tebyg ydoedd yma i hanes yr ardaloedd cylchynol—pregethwr dieithr yn dyfod heibio yn awr ac yn y man, ac yn cael derbyniad i bregethu i'r tŷ hwn a'r tŷ arall. "Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llainygroes, a thrachefn, am ysbaid dwy flynedd, yn Ysguborgoch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790 yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg,