Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."—(Methodistiaeth Cymru, I., 580.)

Dyma yr adeg y sefydlwyd yr eglwys yn Nghorris wedi ei gofnodi, "y pryd hwn, oddeutu y flwyddyn 1790, y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig," a'r pump a enwir uchod oedd yn gwneyd i fyny aelodau yr eglwys. Cafodd y crefyddwyr hyn, a'r rhai a ymunodd a'r eglwys ar eu hol brofi yn drwm oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Y mae hanes eu gorthrwm, a'r milwyr yn dyfod dan arfau i ymosod ar yr Hen Gastell, a Dafydd Humphrey yn brysio, ac yn cymeryd y pulpud a'i gario ar ei gefn i'w guddio yn y beudy, wedi ei roddi eisioes yn y benod ar yr erledigaethau yn 1795. Ac y mae geiriau yr hen Gristion am dano ei hun, tra yr ydoedd wedi ymuguddio yn y rhedyn yn ngolwg y ffordd, yn teilyngu eu hadrodd fil o weithiau drosodd,—"A gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd." Ychwaneg ar hyn i'w weled yn Hanes Methodistiaeth Corris, a Methodistiaeth Cymru.

Yr Ysgol Sabbothol oedd yn foddion arbenig i gryfhau yr eglwysi, pa le bynag yr oedd y cyfryw wedi eu sefydlu o'i blaen hi. Felly yn Nghorris. Ond tra y mae amser sefydliad yr eglwys yma yn wybyddus, nid oes sicrwydd am amser dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Adroddir am y dull y dechreuodd fel hyn.—Yr oedd yn Sabbath hynod o wlawog, ac nid oedd pregethu yn yr Hen Gastell y diwrnod hwnw. Penderfynodd teulu Abercorris ymffurfio yn ddosbarth, ac i bob un a fedrai ddarllen gymeryd ei Feibl. Cawsant gymaint o flas ar y gwaith yn y dull hwn fel y penderfynasant gyhoeddi Ysgol yn yr Hen Gastell y Sabbath dilynol. Coffheir am dri o ysgolfeistriaid a fu yma yn cadw ysgol, o dan Mr. Charles, oddeutu