Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo. Diameu hefyd fod yr hen le yn gysygredig yn meddyliau y trigolion, fel nad oedd arnynt frys i ymadael o hono. Nid ydym yn hollol sicr ychwaith pa flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Y mae a ganlyn yn gerfiedig ar fur y capel:-

Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;

Yr hyn sy'n peri gwedd o anghysondeb ydyw, y dywedir yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, mai yn 1816 yr ymosodwyd at ei adeiladu. Dichon mai gwall argraffyddol ydyw yr olaf. Ymddengys i'r eglwys fod am beth amser cyn dechreu adeiladu mewn sefyllfa pur isel; syrthiodd rhyw ddigalondid ar y crefyddwyr, a buont am ysbaid heb gadw yr un cyfarfod eglwysig. Hysbysir hefyd fod yr amser hwnw gyfyngder a phrinder mawr ymhlith y trigolion. Ond ail-enynodd ysbryd gweithio yn eu tad hwy oll, sef Dafydd Humphrey; rhoddodd dir i adeiladu arno, a gweithiodd ef ei hun, a'i weision, a'i anifeiliaid; a chynyrchodd yr un ysbryd yn chwarelwyr yr ardal, nes peri iddynt hwythau weithio wrtho bob prydnawn Sadwrn. Dygwyd y capel fel hyn i ben, yr hwn a safai tua haner milldir yn is i lawr na'r hen Gastell, ac yn union lle y saif y capel presenol. Cyn pen hir wedi adeiladu y capel torodd allan yn ddiwygiad nerthol—Diwygiad Beddgelert, 1818, 1819—teimlwyd dylanwadau grymus yr Ysbryd Glan, ac ychwanegwyd at yr eglwys o 65 i 70. Dywedai D. H., mewn canlyniad i'r llwyddiant hwn, "Bum yn chwilio llawer am blant i'r Ysgol Sabbothol; wele hwynt yn awr agos i gyd yn yr eglwys; dyma ddigon o dal am lafurio blynyddoedd meithion." Rhifai yr eglwys ar ddiwedd y Diwygiad hwnw 80, ond syrthiodd y rhif drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrtligiliadau. Cafodd crefydd oruchafiaeth ar yr ardal trwy y diwygiad hwn. Ystyrid y capel a adeiladwyd ychydig yn flaenorol yn gapel mawr, ac eang anghyffredin, mor fawr fel y dywedai rhyw frawd fod