Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisiau "troi ei haner yn gorlan defaid." Yr oedd angenrheidrwydd am i'r capel fod yn fawr bellach, oherwydd fod y boblogaeth yn cynyddu trwy agoriad y chwarelau; ac ymhen tair blynedd ar ol ei adeiladu yr ail dro, sef y flwyddyn y bu farw Dafydd Humphrey, rhifai yr eglwys o 180 i 190. Yr un flwyddyn 1839—blwyddyn jiwbili dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, casglodd Corris at y drysorfa hon £136 0s. 6c., a derbyniasant o honi £209. Naill ai nid oedd hyn yn eu dwyn hwy allan o ddyled yn llwyr, neu aethant i ddyled drachefn, oblegid ceir y penderfyniad canlynol yn nghofnodion Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr, 1853,—"Hysbyswyd fod cyfeillion Corris wedi talu dyled eu capel yn llwyr y llynedd, a phenderfynwyd, Fod y cyfarfod hwn yn cyflwyno diolchgarwch iddynt am eu ffyddlondeb, ac yn enwedig i'r brawd Mr. Humphrey Davies, am ei garedigrwydd yn rhoddi y tir ato, a'r fynwent helaeth sydd yn perthyn iddo, yn rhad." Yn 1869, ymgymeryd âg adeiladu y trydydd tro, a'r ffrwyth ydyw y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r fro. Er cymaint oedd y gorchwyl hwn, yr oedd y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma Awst, 1885, yn gyfarfod jiwbili. Gwnaed yn hysbys ynddo fod dyled y capel oll wedi ei thalu, eu bod fel eglwys a chynulleidfa wedi talu bob blwyddyn at eu gilydd ryw gymaint dros £100, a bod yr holl swm oeddynt wedi dalu yn cyraedd i ymyl £2000. Y mae yr eglwys hefyd er's tuag wyth mlynedd yn ol wedi adeiladu tŷ eang a hardd i'r gweinidog. Y mae pedair eglwys, fel y crybwyllwyd, wedi tarddu allan o'r eglwys hon—Aberllefeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Rhif yr aelodau eglwysig yn 1790 ydoedd 5. Yn niwedd 1886, ymhen agos i gan' mlynedd, yr oedd y fameglwys a'r canghenau gyda'u gilydd yn rhifo 488. Yn 1820, y "Daith Sabbath" ydoedd—Corris, Llanfihangel, a Llanerchgoediog. Yn awr, y mae Corris ei hun wedi myned yn dair o "deithiau,"—Rehoboth, ac Esgairgeiliog; Aberllefeni, a'r Alltgoed; Bethania, ac Ystradgwyn.