Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddir eto grynhodeb o hanes swyddogion yr eglwys. Bu eraill yn dra gwasanaethgar gyda yr achos, trwy yr holl dymhorau er y dechreuad. Ond y mae hanes y swyddogion fel rheol yn cynwys hanes yr eglwys yn lled gyflawn, oblegid ar eu hysgwyddau hwy y bu pwysau y gwaith yn gorphwys. Bendithiwyd yr eglwys hon â swyddogion enwog—dynion yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân o'r cychwyn cyntaf. Ni bu yr un eglwys erioed o dan fwy o ddyled i'w blaenoriaid nag eglwys Corris. I ba beth y priodolir fod yr eglwys hon yn eglwys drefnus, weithgar, a llwyddianus, trwy yr holl flynyddoedd, ond i'r ffaith fod ei blaenoriaid hi wedi bod yn enwog a blaenllaw mewn pob rhinwedd a gweithredoedd da?

Dafydd Humphrey. Efe ydoedd sylfaenydd yr eglwys. Argyhoeddwyd ef pan oedd yn ddyn ieuainc 25 oed, wrth wrando pregeth yn Abergynolwyn—un o'r pregethau cyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn yr holl wlad. Gwnaeth gyfamod y diwrnod hwnw i newid dau achos â'r Arglwydd—i roddi ei achos ei hun i'r Arglwydd, ac i gymeryd achos yr Arglwydd yn waith iddo yntau—ac fe gadwodd at y cyfamodi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd le i bregethu yr efengyl pryd, nad oedd neb yn yr ardal a feiddiai dderbyn pregethwr i dŷ, ac ymhen 30 mlynedd wedi hyny rhoddodd le i adeiladu capel ar ei dir ei hun. Safodd yn wrol o blaid crefydd yn yr erledigaeth ffyrnicaf, pan yr anfonwyd milwyr o dan arfau i'w ddal ef a'i gyd-grefyddwyr. Adroddwyd eisoes am dano yn cario y pulpud ar ei gefn, i'w guddio rhag y milwyr. Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i'w gydbroffeswyr fyned yn wan-galon, rhoddai ef ysbryd ac yni ynddynt i ddal i weithio yn y nos. Dau beth mawr a'i hynodai—zel a brwdaniaeth gyda chrefydd, a llwyr ymroddiad dros ei holl fywyd i wasanaeth crefydd. Adroddai un o'r brodyr, llai ei ffydd, ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig un tro, ac meddai, "Mae arna i ofn y dyddiau yma nad ydw i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y caf ei