Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn: "Seithinyn feddw ab Seithinyn Saidi, brenin Dyfed, a ollyngwys yn ei ddiod y môr dros Cantref y Gwaelod, oni chollwyd o dai a daiar y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinas-dref ar bymtheg, yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru." Cymerodd y trychineb hwn le, fel y dywedir, oddeutu y flwyddyn 500. Y profion cadarnaf dros gredu fod lle mor fawr, sydd yn awr oll dan ddwfr, unwaith yn wlad eang, yn cael ei phreswylio gan ddynion, ydyw y Sarnau, neu y muriau mawrion sydd yn weledig yn y mor ar ddwfr bas. Ond a chaniatau fod Cantref y Gwaelod wedi bod unwaith yn wlad yn cael ei phreswylio fel y rhanau sydd yn awr ar lan y môr, mae y traddodiad mai trwy esgeulusdra dyn meddw y cymerodd y trychineb le yn anhawdd iawn ei gredu. Mwy tebygol ydyw mai trwy ryw ffordd arall, ac feallai yn raddol, y cymerodd y gorlifiad le.

Amaethyddiaeth ydyw cynyrch a chyfoeth penaf y wlad. Proffwydodd Azariah Zadrach, hen weinidog ffyddlon gyda'r Annibynwyr, fod cyfoeth lawer yn nghrombil bryniau a mynyddoedd y bröydd hyn. Cyfansoddodd gân yn y fl. 1836, yn yr hon y dywed:—

"Y mae yn mynyddau Meirion
Lawer o drysorau mawrion,
Ac fe'u cludir lawr i Dyfi
Yn dunelli dirifedi.

Mae'r mynyddau sy'n dra anial,
'Nawr uwchlaw i bentref Pennal,
Yn llawn trysor maes o'r golwg:
Cyn bo hir fe ddaw i'r golwg.

Fe fydd trefydd ac eglwysi
Cyn b'o hir ar lanau Dyfi,
A hwy fyddant yn fwy hynod
Na hen drefydd Cantref-gwaelod.

Gwneir pont ha'rn dros afon Dyfi,
A bydd miloedd yn ei thramwy,
Wrth dd'od i lawr o Gader Idris.
I'r dref hardd fydd ar Foelynys.