Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr eglwys, a gofalu am ddechreu a diweddu y moddion; llanwodd y rhai hyn mor berffaith nas gallasai neb eu llenwi yn well. Pwy bynag fyddai yn siarad, y fynyd y delai yr amser i derfynu, rhoddai ef benill allan i'w ganu. Y mae ei blant a'i Wyrion a'u hysgwyddau yn dyn o dan yr arch.

William Richard, Tycapel. Blaenor a'i enw mewn coffadwriaeth parchus yn Nghorris ar gyfrif ei onestrwydd a'i grefyddoldeb. Wedi iddo symud i Gorris i fyw, dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno yn 1836, a llanwodd ei swydd yn fyddlawn hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861. Rhai o'i ragoriaethau oeddynt, ei fedrusrwydd i borthi y praidd, ei sylwadau craff a phwrpasol yn y cyfarfodydd eglwysig, ei gynghorion buddiol i ieuenctyd, a'i lymder yn erbyn pechod. Mae ei blant ar ei ol yn dilyn llwybrau rhinweddol eu tad.

Owen Jones. Dyfod yma wnaeth yntau o Waunfawr. Meddai ar alluoedd cryfion, a dawn hwylus. Efe ydoedd yr ymadroddwr penaf yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath, Byddai ganddo asgwrn i'w gnoi ar ol pob pregeth; disgwylid am ei sylwadau, a byddent yn gyffredin yn rymus ac at y pwynt.

Robert Owen. Yn Ebrill y flwyddyn hon (1887), y bu ef farw. Bu yn grefyddwr da, ac yn weithgar gyda chrefydd yn Aberllefeni cyn symud i Gorris. Wedi ei droi yn lled gynar ar ei oes o'r ffordd ddrwg, ac iddo ymuno â'r eglwys, gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, a llwyddodd i fesur helaeth gyda y naill a'r llall. Efe ydoedd trysorydd yr eglwys y tymor olaf o'i oes, ac nid oedd ei well i'w gael. Yn ei gystudd olaf, yn enwedig tua'r diwedd, cafodd brofiad lled sicr ei fod yn myned i "gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni."

Bu Morris Jones, Aberllefeni; William Edwards, Ceinws; Richard Lumley, a Thomas Jones, Voelfriog, yn flaenoriaid yn yr eglwys hon, am y rhai y coffheir mewn lle arall. Y Parchn. John Jones, Brynteg, Arfon, ac Ebenezer Jones, fuont yn llafurus gyda chrefydd yma a'm dymor o'u hoes.