Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

David Davies, Geuwern, ydoedd yn bregethwr zelog, ac ymroddgar. O Rhiw, Ffestiniog, y daeth i'r ardal hon, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel y Geuwern. Yr oedd yn ddyn cymeradwy a dylanwadol yr adeg y bu yn byw yma. Bu yn ymdrechgar iawn i ddilyn ei deithiau Sabbothol yma ac yn Ffestiniog. Cymerwyd ef ymaith yn lled sydyn trwy dwymyn boeth oddeutu y flwyddyn 1865.

Hugh Roberts. Pregethwr adnabyddus iawn yn Ngorllewin Meirionydd am y 27 mlynedd olaf o'i oes ydoedd ef. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, yn y lle a elwid "Incline y Dinas," rhwng Bangor a Bethesda. Symudodd i Gorris yn 1833. Dywedir iddo ymuno â dirwest y noswaith y ffurfiwyd y gymdeithas yn yr ardal, ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Efe, hefyd, yn ol ei dystiolaeth ei hun, a siaradodd yn gyhoeddus gyntaf yn Nghorris o blaid dirwest. Cafodd argyhoeddiad grymus wrth wrando pregeth yn Llwyngwern. Ymunodd â chrefydd gyda'r brodyr y Wesleyaid yn Nghorris, ac yn fuan dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys yr oedd yn aelod o honi, a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu, a chyda y Wesleyaid y bu yn pregethu am y pymtheng mlynedd cyntaf. Oherwydd rhyw amgylchiadau, daeth drosodd at y Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn bregethwr; ac o'r flwyddyn 1856, bu yn pregethu yn gyson gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai yr 2il, 1882. Yn nghofnodion y Cyfarfod Misol cyntaf a gynhaliwyd wedi hyny, ceir yr hyn a ganlyn:— "Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am y Parch. Hugh Roberts, Corris. Dywedid am dano ei fod yn ddyn cywir a gonest yn ei ymwneyd â'r byd hwn, ac yn nodedig o ffyddlon gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Teimlir colled mewn cylch eang ar ol ei weinidogaeth. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur i liaws mawr o wrandawyr."

Cyfododd cenhadwr ymroddgar a llwyddianus o'r eglwys hon, sef y Parchedig John Roberts. Derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug,