Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref 4ydd, 1863. Wedi bod am bedair blynedd yn Athrofa y Bala, ac wedi hyny yn Mhrif Athrofa Edinburgh, aeth allan i'r maes cenhadol ar Fryniau Kassia, India'r Dwyrain, yn Medi, 1871.

Y mae yn deilwng o goffhad fod dirwest wedi bod mewn bri mawr yn Nghorris o gychwyniad cyntaf yr achos dirwestol, ac wedi cael lle pur amlwg hefyd mewn disgyblaeth eglwysig. "Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol (llwyrymataliol) cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5ed, 1836; a'r ail, Tachwedd 12fed, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol." "Y mae yn ffaith gwerth ei chroniclo, fod cylchwyl flynyddol cymdeithas ddirwestol Corris wedi ei chynal yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, o'i sefydliad hyd yn awr (1885), ar Ddydd Iau Dyrchafael."—(Llythyr Mr. D. Ifor Jones, yn Llyfr Jubili y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru.)

Amgylchiad arall tra hynod mewn cysylltiad â'r eglwys hon ydyw, fod llety y pregethwyr wedi bod yn yr un fan, a chyda yr un teulu o ddechreuad cyntaf pregethu yn yr ardal, er's rhyw gymaint dros gan' mlynedd o amser; a thri yn unig sydd wedi bod yn ben-teulu yn y tŷ lletygar hwn yr holl flynyddoedd uchod,—Dafydd Humphrey, y taid, o 1782 hyd 1839; Humphrey Davies, y tad, o 1839 hyd 1873; a Mr. Humphrey Davies, U.H., y mab, o 1873 hyd yn awr. Bu y Parch. Evan Jones, yn awr o Gaernarfon, yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon o 1868 i 1872. Symudodd oddiyma i fod yn weinidog yr eglwys yn y Dyffryn. Drachefn, y Parch. W. Williams, o 1873 hyd ddechreu 1888, pryd y symudodd i Talsarn, ar alwad yr eglwys yno.

Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt, Mri. Humphrey Davies, U.H., John Roberts, Evan Williams, Edward Humphreys, Morris Thomas, a Humphrey Lloyd Jones.

ABERLLEFENI

Cangen ydyw yr eglwys yn Aberllefeni, wedi troi allan o