Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys Corris, ac felly, diweddar mewn cymhariaeth ydyw yr hanes a berthyn iddi hi. Yn 1839 yr adeiladwyd ysgoldy yma gyntaf. Yr hyn y gellir ei goffhau yn flaenorol i hyny ydyw hanes teithiau yr Ysgol Sul o dŷ i dŷ ar hyd y cymoedd. Ychydig oedd nifer y preswylwyr yn y cymoedd culion hyn cyn agoriad y chwarelau. Yr amgylchiad hwn a roddodd bwysigrwydd ar yr ardal. Yn ddiweddarach o tuag ugain mlynedd yr agorwyd y chwarelau yma na chwarelau Ffestiniog. Dywedir mai tri o ddynion oedd yn gweithio yn chwarel Aberllefeni yn 1824, a'u cyflog yn bymtheg swllt yr wythnos. O'r dyddiad hwn ymlaen, am y pymtheng mlynedd dyfodol, daeth llawer iawn o ddieithriaid i fyw i'r gymydogaeth hon a Chorris o Sir Gaernarfon. Yr hanes cyntaf am grefydd yr ardal ydyw yr hyn a ysgrifenwyd i'r Drysorfa, 1840,—"Yn oes yr Hen Gastell, sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn Aberllefeni. Aeth hono yn dair; ac yn awr mae y Col. Jones (tad R. D. Pryce, Ysw., Arglwydd Raglaw Sir Feirionydd), Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, wedi bod mor haelionus ag adeiladu ysgoldy yn yr ardal hono." Felly, yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Aberllefeni cyn y flwyddyn 1816. Yn y Tỳ Uchaf y cedwid hi gyntaf, ac am hwyaf o amser, a cheid pregeth yno yn achlysurol. Yn "Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd," ceir yr hanes dyddorol a ganlyn mewn cysylltiad â'r lle hwn Digwyddodd rhai pethau digrifol yn y Tŷ Uchaf. Yr oedd Hugh Humphrey, o Lwydiarth, yn bresenol yn yr oedfa un tro. Crybwyllasom mewn penod flaenorol am ei gryfder corfforol; ac ffeiriau byddai weithiau yn gwneuthur gwrhydri fel ymladdwr. Cariai ffon fawr yn gyffredin, a dywedir iddo rai troion glirio heol Dinas Mawddwy ar ddiwrnod ffair. Y tro hwn adroddai y pregethwr hanes Joseph; ac yr oedd y cwbl yn dra newydd a dieithr i Hugh Humphrey. Yr oedd ei ffon yn ei law; ac wrth glywed y pregethwr yn adrodd y gamdriniaeth a dderbyniodd Joseph oddiwrth ei frodyr, nis gallai ymatal heb ddatgan syndod.