Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellau, a J. Ogwen Jones, B.A. Yn 1886, drachefn, adgyweiriwyd a harddwyd y capel gyda thraul o tua £80, yr hyn a dalwyd oll yr un flwyddyn. Y flwyddyn hon y mae yr eglwys yn adeiladu tŷ i'r gweinidog. Yr oedd gan y cyfeill— ion yn y lle hwn Gymdeithas Arianol, fel na thalwyd ganddynt ddim ond trifle o logau—£15 10s. Oc.—yr holl flynyddau hyn.

Y mae capel wedi ei adeiladu yn yr Alltgoed, blaen uwchaf y cwm, ddwy filldir yn uwch i fyny, yn nghyfeiniad Dinas Mawddwy o Aberllefeni. Agorwyd ef Tachwedd 26ain, 1871, pryd y pregethwyd gan y Parch. J. Foulkes Jones, B.A., Machynlleth, a W. Jones, Trawsfynydd. Yr oedd Mri. William Ellis ac Evan Griffith yn byw yn yr Alltgoed y pryd hwnw, a hwy fuont a llaw benaf gyda dygiad ymlaen yr adeilad. Y mae dyled hwn hefyd wedi ei llwyr glirio. Nid oes yma eglwys eto wedi ei ffurfio; perthyna yr aelodau i'r eglwys yn Aberllefeni, a chynhelir ysgol a phregeth bob Sabbath, heblaw moddion eraill yn achlysurol.

Pan yr adeiladwyd yr ysgoldy cyntaf yn Aberllefeni, yn 1839, yr oedd yr haid a berthynai i Gorris yn yr ardal hono o gwmpas 60 o rifedi." Perthyn i Gorris y buont am lawer blwyddyn cyn myned i fyw wrthynt eu hunain. Cynhelid ysgol a phregeth yn yr ysgoldy bob Sabbath, a moddion eraill yn Sabbothol ac wythnosol; yr oedd yno flaenoriaid da, ac yr oedd nifer gweddol gryf o honynt, eto aelodau yn Nghorris oeddynt dros lawer blwyddyn. I Gorris yr elai eu casgliadau, ac yn Nghorris y llywodraethid eu hachosion. Yn ol yr ystadegau, nid ymddengys iddynt ymffurfio yn eglwys yn hollol ar eu penau eu hunain hyd y flwyddyn 1857. Ar ddiwedd y flwyddyn hono y ceir eu cyfrifon gyntaf, fel y canlyn Gwrandawyr, 200; Ysgol Sabbothol, 170; mewn cymundeb, 88; casgliad at y weinidogaeth, £24 8s. 1c.; cyfanswm, £37 10s. 8c. Y mae wedi myned yn daith ar ei phen ei hun er y flwyddyn 1873. Etifeddodd yr eglwys hon fesur