Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helaeth o gymeriad y pren y tarddodd allan o hono; yn gyffelyb i'r fam eglwys yn Nghorris y mae llawer o weithgarwch, ystwythder, ac ysbryd myned ymlaen ynddi hithau trwy y blynyddoedd. Ac fel rheswm cryf dros ei gweithgarwch, gellir dweyd fod yma hefyd ddynion yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan" wedi bod yn blaenori yr eglwys. Bu nifer o frodyr a chwiorydd rhagorol yn cydgario yr arch yn y lle. Er hyny, teilynga rhai o'r cedyrn sylw mwy arbenig. Rowland Evans a Samuel Williams oeddynt ddau o'r rhai enwocaf. Cânt hwy sylw mewn lle arall. Richard Owen, Ceiswyn, wedi cael ei goffhau fel un o flaenoriaid Corris. Yr oedd pwysau yr achos ar y tri hyn y blynyddoedd cyntaf. Coffheir am enwau Thomas Hughes, Tŷ Uchaf, a Howell Jones, Gell Iago, fel rhai a lafuriodd lawer gyda'r Ysgol Sul a rhanau eraill o deyrnas yr Arglwydd Iesu.

Morris Jones. Yr oedd ef yn flaenor i ddechreu, ac yn bregethwr wedi hyny, ac ni bu yn llenwi y ddwy swydd ond prin chwe' blynedd. Bu farw megis ar darawiad trwy gyfarfod â damwain yn y chwarel, Ionawr 27ain, 1840. Yr oedd yn byw mewn amser pwysig ar grefydd yn yr ardaloedd hyn, ac fe wnaeth waith mawr, fel y mae ei enw yn berarogl yn yr holl fro hyd heddyw. Seren ddisglaer ydoedd, yn goleuo yn danbaid ac yn diflanu. Ymddangosodd cofiant iddo yn y Drysorfa am Chwefror, 1841. Rhyw ddeuddeg mlynedd fu ei dymor yn yr ardal hon; daeth yma o Sir Gaernarfon yn ddyn digrefydd, ofer, a gwyllt ei fuchedd. Yr oedd mor alluog yn ei anystyriaeth a'i annuwioldeb, fel y penderfynodd ysgrifenu llyfr yn erbyn yr athrawiaeth Galfinaidd; ond wrth chwilio y Beibl i'r diben hwnw, gwelodd mai Calfiniaeth oedd yn iawn. Cafodd dröedigaeth sydyn a thrwyadl wrth wrando y Parch. T. Owen, o Fôn, ac ymunodd â chrefydd. Dewiswyd ef yn flaenor yn Nghorris yn 1835, a'r flwyddyn ganlynol dechreuodd bregethu. Ni chawsai fyned i'r ddwy swydd hyn mor fuan oni bai fod gallu anghyffredin ynddo, a disgwyliad mawr