Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardal yn "fawnog" am ei bod unwaith yn lle i gynhauafu mawn; wedi hyny, daeth yn gommin, a'r pryd hwn y cerid ymlaen y chwareuon ynddo; ond parhawyd i alw y lle yn "fawnog" dros hir amser wedi iddo beidio a bod felly. Pan fyddai gan Lewis William, Llanfachreth, gyhoeddiad i bregethu yn Ystradgwyn, y Fawnog fyddai ganddo ef bob amser i lawr yn ei Ddyddiadur. Mae y lle wedi ei gau i fyny a'i wneyd yn dir llafur bellach er's dros 60 mlynedd. Y crybwylliad cyntaf a geir am grefydd mewn cysylltiad a'r ardal ydyw, mai ar Fawnog Ystradgwyn y bu Dafydd Humphrey yn gwrando yr ail bregeth a glywodd gan y Methodistiaid. Yr oedd hyn oddeutu 1782. Am ugain mlynedd lawn, ymddengys na wnaed dim yma ond cael ambell odfa yn awr ac yn y man. Sonir am ddwy o'r rhai hyn. Y Parchedig John Roberts, Llangwm, a erlidiwyd yn dost yma un tro, a bu raid iddo gilio o'r lle gan faint oedd nerth yr erlidwyr; ac nid oedd dim i'w wneyd ond ceisio pregethu mewn man arall lle cafodd fwy o dawelwch. Dro arall, yr oedd y Parchedig John Elias, o Fôn, yn pregethu allan ar y Fawnog. Ymddangosodd cwmwl du uwchben, yn bygwth gwlaw trwm. Pwyntiai John Elias a'i fys at y cwmwl, ac erfyniai ar yr Arglwydd am i'r cwmwl gilio. Credid fod ei weddi wedi cael ei hateb; yn ebrwydd, ciliodd y cwmwl, a chafodd John Elias odfa anarferol o rymus. Cyd—deithiai Mr. Charles, o'r Bala, â Dafydd Humphrey, Corris, rywbryd wedi dechreu y ganrif hon, o Gorris i Abergynolwyn, ac wedi dyfod i olwg Ystradgwyn, gofynai Mr. Charles i D. H., "Oes yr un ceiliog yn canu yn ardal Ystradgwyn yma, Dafydd ?"—Wrth geiliog yn canu, golygai yr Ysgol Sul—"Nac oes," oedd yr ateb. "Ow, ow," ebe Mr. Charles, "treiwch gael un, treiwch gael un." Yn fuan wedi hyn, trefnwyd i Lewis William fyned i'r ardal i gadw ysgol ddyddiol. Dafydd Humphrey fu yn chwilio am le iddo i'w chadw, ac fe lwyddodd iddi gael ei chynal yn Dolydd Cae. "Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y cared-