Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd."—Hanes Methodistiaeth Corris. Yr Ysgol Sabbothol a fu yn foddion i ymlid y chwareuon â'r bêl droed allan o'r gymydogaeth. Yn ol hysbysrwydd a gafwyd ar ol gwneyd ymchwiliad manwl, tua phum' mlynedd yn ol, dechreuwyd hi oddeutu y flwyddyn 1806. Y tebygolrwydd yn awr ydyw, mai Lewis William fu'n foddion i roddi cychwyniad iddi, a hyny ar ol yr ymddiddan a fu rhwng Mr. Charles a Dafydd Humphrey. Cynhelid hi ar y cyntaf yn Dolydd Cae, ac anedd-dai eraill, hyd nes y cafwyd y capel. Enwir y brodyr ffyddlawn Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Lewis Pugh, Shôn Rhisiard, Richard Owen, Ceiswyn—oll o Gorris, ynghyd âg Anne Jones, Cwmrhwyfor, fel rhai fu yn dra ffyddlon gyda hi yn ei chychwyniad. Yr oedd Anne Jones yn ferch i'r hen sant Harri Jones, Nantymynach, ac yn un o ddisgyblion ysgol Bryncrug. Wedi ei dwyn i fyny a'i hyfforddi yn yr Ysgrythyrau o'i mebyd, yn y teulu mwyaf crefyddol yn yr holl wlad, yr oedd hi, fel y gallesid disgwyl, yn wraig hynod o rinweddol. Ymhen amser wedi dechreu yr ysgol, coffheir am un ffaith nodedig mewn cysylltiad â hi, sef nad oedd ond tri yn gwneyd i fyny ei nifer— Anne Jones, Cwmrhwyfor, yn athrawes, a dau frawd, William a John Owen, Dolydd Cae, yn ddisgyblion. Bu y chwareuon ar y Fawnog, neu y commin, yn milwrio yn hir yn erbyn llwyddiant yr Ysgol. Ymgasglai ieuenctyd yr ardal i'r lle hwn ar y Sabbath, a pharhaodd y cynulliadau hyn yn hir yn dra lliosog. Arferid cynal odfeuon yn y pen isaf i'r Fawnog, o tan goeden gelyn. Erys yr hen goeden hyd heddyw yn yr un fan, yn goffadwriaeth o amseroedd rhyfedd y dyddiau gynt. Yr oedd un yn fyw yn ddiweddar yn cofio pregethu yma, ac yn cofio gweled y bechgyn, ar ol blino yn chwareu, yn dyfod at y gynulleidfa, gan roddi eu hunain i lawr ar eu lled-orwedd i