Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrando am ychydig, a phan ddarfyddai yr awydd i wrando, elent i chwareu drachefn, a hyny, bid siwr, cyn i'r pregethwr orphen pregethu. Yn ddiweddarach, a chyn bod son am yr un addoldy, yn Tŷ'n y Wins, anedd—dŷ wrth dalcen y capel presenol y buwyd yn pregethu ac yn cynal Ysgol Sabbothol am flynyddoedd gyda chysondeb. Un o'r hen frodyr a adroddai, amser yn ol, iddo fod yn gwrando ar y Parch. Lewis Morris yn pregethu yn Tŷ'n y Wins ar y mater, "Moses yn taro y graig." Yr oedd Lewis Morris yn ddyn mawr o gorff—y mwyaf yn yr holl wlad. Wrth bregethu, fe ddywedai, "Dyn mawr oedd Moses, yr un fath a fi; fe fuasai Moses yn taro y Gader yna," gan gyfeirio ei law at Gader Idris—"fe fuasai Moses yn taro y Gader yna nes y buasai digon o ddŵr yn dod allan o honi i ddiodi yr holl drigolion oddiyma i Dowyn."

Y flwyddyn y cafwyd prydles i adeiladu capel ydoedd 1832; ei hyd, 99 mlynedd; ardreth flynyddol, 28. Ond ymddengys i'r capel gael ei adeiladu yn 1828 neu 1829, yn yr un fan ag y mae yn bresenol, yn 8 lath bob ffordd. Erys y dydd heddyw yr un faint a'r un llun ag yr adeiladwyd ef gyntaf. Ymunodd â'r eglwys ar ei ffurfiad y pryd hwn o 30 i 35 o aelodau o Gorris. Elent wedi hyny am rai blynyddoedd i'r fam-eglwys. i gyfranogi o'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dywedir mai y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn Ystradgwyn. Y tebyg ydyw na bu yr eglwys byth yn fwy Iliosog ei rhif nag ydoedd ar ei dechreuad, am y rheswm mai teneu ei phoblogaeth ydyw yr ardal, ac y mae yn myned yn deneuach, deneuach o hyd, fel y mae yr eglwys. erbyn hyn yn un o'r rhai lleiaf yn Ngorllewin Meirionydd. Bu yma lawer o ffyddlondeb gyda chrefydd y deugain mlynedd diweddaf, ac mae y ffyddlondeb hwnw eto yn parhau. Er hyny, bu yn hanes yr eglwys fechan hon rai ystormydd a blinderau, y rhai yn gyffelyb i ystormydd mewn natur, yn nghwrs. y blynyddoedd a aethant heibio, gan adael tywydd teg ar eu hol.