Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ryw Sabbath, ymhen blynyddoedd wedi myned i'r capel i addoli, yr oedd y Parch. Evan Roberts, Abermaw, yma yn pregethu. Daeth un o'r hen frodyr blaenllaw i'r capel y tro hwnw, heb fod yn hollol hwylus yn ei iechyd, mae'n debyg, a shawl fawr am ei ben, wedi cylymu hono â llwmgwlwm ar ei wddf, ac eisteddai ar y fainc o flaen y pregethwr. Y testyn oedd, "A wyt ti yn credu yn Mab Duw?" Dywedai y pregethwr ar ei bregeth amryw weithiau, "Mae arnaf flys dyfod i lawr o'r pulpud yma i'r llawr i ofyn i chwi bob yn un ac un, A wyt ti yn credu?' Elai ymlaen i bregethu, a dywedai drachefn a thrachefn, yn ystod ei bregeth, fod arno awydd dyfod i lawr i ofyn y cwestiwn. O'r diwedd, atebai yr hen frawd a eisteddai o'i flaen, dros y capel, "Wel pa'm na ddoi di ynte, Evan, yn lle bwgwth dwad o hyd."

Ni bu blaenoriaid yr eglwys hon erioed yn lliosog, a cheir amryw flynyddoedd yn ei hanes heb yr un blaenor wrth ei swydd yn blaenori o gwbl. Y cyntaf a ddewiswyd, yn ol pob hanes a gafwyd, oedd dyn ieuanc da a chrefyddol, o'r enw Owen Evans. Buasai y gŵr hwn cyn hyn yn gwasanaethu gyda Sion Evan, Tywyllnydwydd, Pennal, a byddai arferol ag adrodd yn fynych am yr addysg grefyddol oedd wedi ei gael tra yn ngwasanaeth yr hen bererin duwiol hwnw. Aeth Owen Evans, yn fuan wedi ei neillduo yn ddiacon, i'r America, ac nid ymddengys i neb fod yn flaenor ar yr eglwys ond efe am yr ugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Yn 1851 dewiswyd dau—Mr. John Owen, Tynymaes, sydd yn flaenor yma hyd heddyw; ac Evan Roberts, oedd yn was yn y Llwyn. Ymfudodd ef yn fuan i Awstralia, ac y mae er's blynyddoedd wedi gorphen ei yrfa yn y bywyd hwn. Ar eu hol hwy dewiswyd David Jones; yntau hefyd er's rhai blynyddoedd wedi ei symud at y mwyafrif. Yr oedd ef yn ŵr tra galluog o feddwl, yn un o'r Ysgrythyrwyr goreu yn yr holl wlad, ac yn y Cyfarfod Ysgolion a'r cyfarfodydd egwyddori ystyrid ef o flaen pawb. Wedi hyny y dewiswyd Richard Jones, ac yn olaf Mri. David Owen,