Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynymaes, ac Humphrey Jones, Cildydd. Bu Richard Jones. farw Ionawr 7fed, 1888. Yr oedd yn ŵr hynod o afaelgar ar ei liniau. Yn amser y diwygiad wyth mlynedd ar hugain yn ol, cafodd ei drwytho mewn crefydd tuhwnt i'r cyffredin. Hynodid ef fel un di-rodres a di-dderbyn wyneb. Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yma yn byw ac yn gweithio gyda'r achos am dymor rhwng 1840 a 1850. Cynhaliwyd amryw Gyfarfodydd Misol yn Ystradgwyn er's llawer o amser yn ol. Yr olaf a gynhaliwyd yma oedd yn Awst 1818. Nid oedd yr un blaenor ar yr eglwys, yn ol yr Ystadegau, y flwyddyn hono. Ymhlith gwaith y Cyfarfod Misol hwnw, o'r pump o bethau yn unig fu dan sylw rhwng y dydd cyntaf a bore yr ail ddydd, un ydoedd,—"Hysbysodd Mr. Humphreys ei fod ef am fyned o'r sir am ychydig yn y gauaf."

ESGAIRGEILIOG.

Ystyrir Esgairgeiliog fel yn perthyn yn nes i Gorris, ymhob rhyw fodd, nag i unlle arall, oblegid saif y pentref o fewn milldir a haner i'r lle diweddaf, ar y ffordd yr eir i lawr oddiyno i Fachynlleth. Yr eglwys yn y lle hwn oedd y drydedd i fyned allan o'r cwch cyntaf yn Nghorris. Dyddiad adeiladu y capel cyntaf yn y lle ydyw 1841, ac aeth ugain mlynedd. heibio wedi hyny cyn bod yr eglwys yn hollol arni ei hun. Hanes dechreuad yr Ysgol Sul ydyw hanes crefydd yma yn gwbl hyd adeg adeiladu y capel. Yn ol adroddiad a dderbyniasom o'r ardal bum mlynedd yn ol, dechreuwyd yr ysgol mewn bwthyn diaddurn, o'r enw Pant-teg. Arolygwyd hi yn y lle hwn yn hir gan William Jones, Tan'rallt, Corris, ond gallwn dybio ei bod wedi ei dechreu yma cyn i'r gwr hwnw ddyfod i'r wlad hon o Sir Gaernarfon. Oherwydd fod y bwthyn uchod yn rhy fychan, symudwyd hi i'r Tymawr. Ymhen. ysbaid wedi hyn, cynhelid hi yn Blaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jinny Peters, ynghyd â brawd i Jinny Peters, o'r