Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw David Jones. Yn absenoldeb Richard Lewis, y dechreuwr canu, arferai Jinny Peters godi y canu, a dywedir mai hi fyddai arferol o godi canu yn y seiat yn nghapel Seion, Llanwrin (terfyna Blaenglesyrch ar ardal Llanwrin). Bu yr ysgol yn nhŷ y ddau bererin hyn yn hir o amser ac am dymor pryd nad oedd neb ond gŵr y tŷ i ddechreu a diweddu yr ysgol;—a bu yn foddion gras i lawer o breswylwyr y Cwm. Dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Esgairgeiliog, ac adeiladwyd capel yn y flwyddyn 1824, ar dir Rhiwgwreiddyn. Galwyd enw y capel, "Achor" Yr oedd yr Ysgol Sul yma, dros ryw dymor, yn gynwysedig o Fethodistiaid ac Annibynwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau, fe ranwyd y llwyth, ac ymneillduodd y Methodistiaid i gynal yr ysgol i ffermdy Esgairgeiliog, lle yr oedd Edward Edwards yn cadw hafod i Dr. Evans, o'r Fronfelen. Cynhelid yr ysgol y blynyddoedd hyn, gan mwyaf, gan rai nad oeddynt yn proffesu crefydd, ac yn mhlith eraill a fu yn zelog gyda hi, enwir William Jones, Ysgubor Fach; Edward Edwards, Esgairgeiliog, ac un arall a letyai yn yr un tŷ, ewythr i Dr. Evans, yr hwn a gymerai ddyddordeb mawr mewn dysgu plant. Elai y cyfeillion canlynol i lawr o Gorris i gynorthwyo i gario gwaith yr ysgol ymlaen: Humphrey Davies, William Jones, Tan'rallt; William Richard, Tŷ capel; Hugh Humphrey, y Pentref, a'i fab Humphrey Hughes, Pandy.

Gwelodd yr ardal hon lawer tro ar fyd. Newidiwyd ei henw o'r bron ddeg o weithiau. Gelwid hi i ddechreu "Fatri Ceinws," am mai factory a adeiladwyd gan deulu y Ceinws oedd yr adeilad pwysicaf yn y lle. Ymhen amser wedi adeiladu amryw dai o amgylch y factory, gelwid y lle wrth yr enw "Pentre Cae'rbont," neu "Bentre'r Ceinws." Ar ol adeiladu capel Achor, enw y lle am beth amser a fu "Pentref Achor." Ac wedi adeiladu capel y Methodistiaid, galwyd y lle am flynyddoedd yn "Bentref Samaria," oherwydd y rheswm, mae'n debyg, fod y Methodistiaid wedi ymneillduo i addoli i'w