Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teml eu hunain. Enw y lle yn awr yn y cylchoedd agosaf, ac yn nghylchoedd y Methodistiaid yn gyffredin ydyw, Esgairgeiliog. Ond yr enw eto o dan drefniadau y llythyrdy ydyw, Ceinws. [1]

Ond y modd yr aethpwyd ymlaen gyda'r achos, wrth weled yr ysgol yn cynyddu yn ffermdy Esgairgeiliog, teimlid angen am ysgoldy, er mwyn cael ambell bregeth ynddo yn gystal ag Ysgol Sul. Gofynwyd i Doctor Evans am dir i adeiladu addoldy arno. Addawodd yntau y caent le i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul, ond nid oeddynt i gael pregethu ynddo. Ni wnai hyn mo'r tro gan y cyfeillion, ac yn y cyfyngder yr oeddynt ynddo, cawsant dir am bris rhesymol gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ac heblaw hyny, addawodd £15 tuag at draul adeiladu y capel, er nad oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Rhoddodd y tir heb na gweithred na rhwymiad arno, ac felly y bu hyd o fewn pymtheng mlynedd yn ol, pan yr aed i ail adeiladu y capel. Yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, dywedir, "Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgeiliog, yn saith lath wrth wyth o faint." Yn 1841 yr agorwyd y capel, a galwyd ef wrth yr enw Ebenezer. Heblaw cynal Ysgol Sul, ceid pregeth bellach unwaith yn y mis, a moddion eraill yn achlysurol. Bob yn dipyn, cynhelid cyfarfod eglwysig, er nad oeddynt oll ddim ond aelodau yn perthyn i'r fam eglwys. Y mae amryw yn cofio yn dda, pan orphenai y cyhoeddwr yn Nghorris a chyhoeddi y moddion wythnosol ar y diwedd nos Sabbath, cyfodai John Jones, Gyfylchau, ar ei draed, a chyhoeddai, "Seiat nos Fercher yn Ebenezer." O dan arolygiaeth Corris y bu yr achos hyd amser y diwygiad, a thebyg ydyw mai oddeutu 1861 y ffurfiwyd Esgairgeiliog yn eglwys ar wahan. Ei chyfrifon ymhen dwy flynedd ar ol hyn, sef yn niwedd 1863 oeddynt,—mewn cymundeb, 50; gwrandawyr, 98; Ysgol Sabbothol, 84; casgliad at y weinidogaeth, £9

  1. Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.