Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

9s. 1c; cyfanswm, £33 15s. 7½c. Yn fuan wedi hyn, a hyd y flwyddyn 1873, bu Esgairgeiliog yn "Daith Sabbath" gydag Aberllefeni. O'r flwyddyn uchod hyd yn awr, y mae yn daith gyda Chorris. Buwyd fwy nag unwaith yn ceisio cysylltu Esgairgeiliog a Pantperthog a'u gilydd, ond yn fethiant y bu hyny byd yma. Yn 1874, adeiladwyd y capel yr ail dro yn yr un fan ag y safai y capel cyntaf. Mae yn gapel hardd a chyfleus; gall eistedd ynddo 146, ac y mae yn awr yn rhyddfeddiant i'r Cyfundeb. Erbyn hyn, y mae nifer yr eglwys a'r gynulleidfa yn llai nag y bu oherwydd symudiadau ac ymadawiadau o'r ardal. Eto, mae y nifer sydd yn aros yn dra ffyddlon a gweithgar gyda thynu i lawr ddyled y capel, a chyda phob symudiad a berthyn i'r achos ac i'r Cyfarfod Misol.

Dau flaenor cyntaf yr eglwys oeddynt, John Jones, Gyfylchau, a William Edwards, Ceinws. Dewiswyd hwy yn flaenoriaid yn Nghorris, cyn i'r eglwys hon fyned ar ei phen ei hun, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 28ain, 1851. Daeth John Jones i fyw i'r Gyfylchau rai blynyddoedd cyn adeiladu y capel, ac arno ef yn hollol y blynyddoedd hyny yr oedd gofal yr Ysgol Sabbothol. Ar ei ysgwyddau ef hefyd y gorphwysai llawer o'r gwaith gydag adeiladu y ddau gapel y ddau dro. Yr oedd wedi gweithio gwaith oes lled dda cyn cael ei ddewis yn flaenor, ac efe a fu yn asgwrn cefn yr achos trwy yr holl flynyddoedd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua chwe blynedd yn ol. Digon tebyg fod rhai pethau yn tynu yn ol oddiwrth ei ddylanwad. Ond a'i gymeryd oll yn oll, yr oedd yn ŵr o ddawn a gwybodaeth eangach o lawer na'r cyffredin, ac yr ydoedd yn gyflawn ymhob cylch gyda dygiad yr achos ymlaen. Nid yn aml y ceid gwell gwrandawr nag ef, a byddai ar uchelfanau y maes pan fyddai yr awel nefol yn chwythu. Ni byddai unrhyw ran o'r gwaith yn ol tra byddai John Jones yn bresenol, gan mor ddeheuig ydoedd gyda phob peth.

William Edwards, Ceinws, oedd un o "rai rhagorol y