Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar yr arddull Normanaidd o adeiladaeth. Ei sefydlydd a'i noddwr ydoedd Sant Cadfan, yr hwn a ddaeth drosodd o Lydaw i Gymru yn nechreuad y chweched ganrif. Sefydlodd hefyd eglwys Llangadfan, yn Sir Drefaldwyn. Yr oedd Sant Cadfan yn Abad yn mynachlog Ynys Enlli, ac fel yr hysbysir yn "Bonedd y Saint," yr oedd ganddo Beriglor o'r enw Hywyn. Y mae un awdwr Cymreig yn tybio y gallai fod enw y dref wedi tarddu oddiwrth enw y periglor Hywyn, a thrwy dreigliad amser fod y gair wedi llygru i "Nhywyn," ac yna i "Tywyn, ac yn olaf i "Towyn."[1] Eraill a ddywedant mai ystyr y gair Towyn ydyw, lle ar fin y môr. Yr enw ar y bryn sydd wrth ymyl tref Towyn, ar yr ochr ddeheuol ydyw, "Bryn y Paderau," oddiwrth y ffaith y byddai yr hen seintiau a fynychent yr eglwys yn syrthio ar eu gliniau ar ben y bryn i ddweyd eu pader; gan mai ar gyrhaeddiad i ben y bryn y cai y rhai a ddeuent o gyfeiriad Aberdyfi a Maethlon yr olwg gyntaf ar yr eglwys, ac yr oedd eu parch yn gymaint iddi fel yr elent ar eu gliniau pan y caent yr olwg gyntaf arni. Yn y flwyddyn 1215, blwyddyn y Freinlen Fawr (Magna Charta), cynhaliwyd cyfarfod mawr o Dywysogion Cymru yn Aberdyfi, i'r diben o hawlio eu rhyddid yn y tiroedd a ddygasid oddiarnynt gan yr arglwyddi. "Yn yr amser hwn, ymddangosodd ymhlith y Cymry dueddiad nodedig a chanmoladwy i gydgymodi er cynal undeb a heddwch rhyngddynt a'u gilydd; ac i'r diben o hyfforddi eu bwriadau, cynhaliwyd cyngor yn Aberdyfi, lle y daeth Llewelyn ap Iorwerth, a holl Dywysogion Cymru, ynghyd â holl ddoethion Gwynedd; a cher bron y Tywysog y gwnaethpwyd rhaniad tiriogaethau rhwng yr ymgeisyddion yn y Deheubarth."—Carnhuanawc.

Yn mhlwyf Llanegryn, y mae ffermdy o'r enw Talybont, yr hwn y tybir a fu unwaith yn breswylfa Tywysogion Gwynedd,

yn gymaint ag i'r Tywysog Llewelyn ddyddio un o'i freinleni

  1. Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd, gan Evan Jones (Ieuan Dyfi), yn awr y Parch. Evan Jones, Caernarfon.